BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhwydwaith Busnes Cymdeithasol Cymru – Wythnos Fenter Fyd-eang

group of people at a meeting

Cyfle i gwrdd ag entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru a chlywed y newyddion diweddaraf yn y sector.

Ymunwch â ni yn Wythnos Fenter Fyd-eang i gysylltu ag entrepreneuriaid cymdeithasol a dathlu cyn Diwrnod Menter Gymdeithasol.

Yn y cyfarfod Zoom awr o hyd hwn, ar 15 Tachwedd 2023, gallwch:

  • glywed am y newyddion diweddaraf yn y sector – diweddariad gan WCVA am eu Cronfa Wirfoddoli
  • sylw cymdeithasol – clywed gan fentrau cymdeithasol a enwebwyd yng ngwobrau SBW diweddar
  • cwrdd ag entrepreneuriaid cymdeithasol eraill yn eich ardal. Rhannu llwyddiannau, ymdrechion a chyfleoedd i gydweithio

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Social Business Wales Network - Global Enterprise Week Tickets, Wed 15 Nov 2023 at 12:00 | Eventbrite

Eisiau dechrau busnes sy'n gwneud gwahaniaeth? Gallwn eich helpu.

Credwn y gellir gwneud busnes yn wahanol. Gwyddom, drwy fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ei bod yn bosibl creu newid cadarnhaol ac adeiladu cymunedau cryfach, cyfoethocach.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.