BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Technolegau Trawsnewidiol Innovate UK

Mae Innovate UK yn cynnig cyfran o hyd at £20 miliwn mewn grantiau i fusnesau bach a micro sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Yn ogystal â'r cymorth grant, cewch gynnig cymorth busnes teilwredig a gyflwynir gan Innovate UK EDGE.

Nod y gystadleuaeth hon yw darparu pecyn o gefnogaeth dargedig i alluogi busnesau micro a bach uchelgeisiol sydd wedi’u cofrestru yn y DU mewn technolegau trawsnewidiol i gyrraedd eu potensial.

Rhaid i'ch arloesedd arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sydd gryn dipyn o flaen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd, neu’n cynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Gall hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.

Rhaid i chi ganolbwyntio ar un o'r technolegau trawsnewidiol a sut y gallwch chi alluogi arloesedd fforddiadwy, mabwysiadol a buddsoddiadwy ar gyfer:

  • lled-ddargludyddion
  • telegyfathrebu yn y dyfodol
  • sicrwydd deallusrwydd artiffisial
  • bioleg peirianneg
  • cwantwm
  • deunyddiau a gweithgynhyrchu cynaliadwy yn y DU

Bydd y gystadleuaeth hon yn cau am 11am ar 29 Mawrth 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Innovate UK Transformative Technologies - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arloesi | Innovation (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.