BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru

Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Gyda'r Sioe Frenhinol yn llawn a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, mae'r Gweinidog wedi datgelu bod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157 miliwn rhwng 2021 a 2022, sy'n gynnydd o 24.5%.

Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na'r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%.

Y categorïau allforio gwerth uchaf ar gyfer Bwyd a Diod Cymru yn 2022 oedd Cig a Chynnyrch Cig ar £265 miliwn, cynnydd o 42% ers 2021, a Grawnfwyd a Pharatoadau Grawnfwyd, cynnydd o 16% i £160 miliwn.

Cyrhaeddodd gwerth allforion y sector i'r UE £594 miliwn, cynnydd o £130 miliwn ers 2021. Roedd allforion y diwydiant i wledydd y tu allan i'r UE werth £203 miliwn yn 2022, twf mawr o £176m yn 2021.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynllun newydd, y Cynllun Arloesi Strategol, i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.

Fel rhan o hyn, bydd Prosiect Helix, sy'n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Helix, a lansiwyd yn 2016, wedi rhoi hwb economaidd o £355 miliwn i'r diwydiant, wedi helpu i greu 683 o swyddi ac wedi diogelu 3,647 o swyddi. Mae mwy na 700 o fusnesau wedi cael cefnogaeth drwy'r cynllun a datblygwyd bron i 2,100 o gynhyrchion bwyd a diod newydd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru | LLYW.CYMRU

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.