BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyflog Byw 2022

Cynhelir wythnos cyflog byw rhwng 14 Tachwedd a 20 Tachwedd 2022 a dyma ddathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU. Y Cyflog Byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 10,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n bodloni anghenion bob dydd - fel y siopa wythnosol, neu daith annisgwyl i'r deintydd.

Beth sy'n digwydd yn wythnos cyflog byw?

  • Digwyddiadau ar hyd a lled y wlad (cadwch lygad allan!)
  • Cyflogwyr yn chwifio'r faner ac yn arddangos y logo gyda balchder
  • Codi ymwybyddiaeth o'r Cyflog Byw yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol

Beth yw manteision busnes talu cyflog byw go iawn?

  • Mae 86% o bobl yn dweud ei fod wedi gwella enw da'r busnes
  • Mae 75% o bobl yn dweud ei fod wedi cynyddu cyfraddau cadw a chymhelliant gweithwyr
  • Mae 64% o bobl yn dweud ei fod wedi helpu i wahaniaethu eu hunain oddi wrth eraill yn eu diwydiant
  • Mae 58% o fusnesau'n dweud ei fod yn gwella'r berthynas rhwng rheolwyr a'u staff

Mae cyfraddau Cyflog Byw yn cael eu cyfrifo'n annibynnol ar sail gwir gostau byw yn y DU a Llundain.

Y cyfraddau newydd ar gyfer 2022/23 yw:

  • £10.90 yr awr - cyfradd y DU
  • £11.95  yr awr - cyfradd Llundain

Dewch i weld sut gall eich busnes gymryd rhan drwy fynd i wefan Cyflog Byw.

Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.