BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf am y Cynllun Cadw Swyddi

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi fel a ganlyn:

  • Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref
  • Bydd gweithwyr ar ffyrlo ledled y DU yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflogau presennol, hyd at £2,500
  • Bydd hyblygrwydd newydd yn cael ei gyflwyno o fis Awst i gael gweithwyr yn ôl i’r gwaith

Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd mis Gorffennaf a bydd y newidiadau i alluogi mwy o hyblygrwydd yn dod i rym o ddechrau fis Awst. Bydd manylion a gwybodaeth fwy penodol am sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar gael cyn diwedd y mis.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.