BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnig cyngor ariannol diduedd am ddim ar:

  • ddyledion a benthyg
  • cartrefi a morgeisi
  • cyllidebu a chynilo
  • gwaith a budd-daliadau
  • pensiynau ac ymddeol
  • teulu a gofal
  • ceir a theithio
  • yswiriant

Maen nhw wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar eu gwefan mewn perthynas â COVID-19:

  • eich hawliau i dâl salwch
  • pa fudd-daliadau allwch chi eu hawlio os ydych chi’n hunangyflogedig neu heb hawl i Dâl Salwch Statudol
  • eich biliau
  • costau tai
  • symud tŷ
  • gwybodaeth i’ch helpu i ddod hyd i ffynonellau cymorth yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.