BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Senedd yn pasio Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru

Royal Arcade Cardiff

Heddiw (16 Gorffennaf 2024), mae Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi'i basio gan y Senedd.

Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.

Ar gyfer ardrethi annomestig (a elwir hefyd yn ardrethi busnes), bydd y Bil yn gwneud y canlynol:

  • cynyddu pa mor aml y caiff gwerthoedd pob eiddo annomestig yng Nghymru eu diweddaru i unwaith bob tair blynedd
  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau
  • galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi
  • dod â threfniadau osgoi treth hysbys i ben a chynyddu'r gallu i fynd i'r afael ag achosion o'r fath mewn ffordd fwy ymatebol yn y dyfodol
  • galluogi gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir gan dalwyr ardrethi.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Y Senedd yn pasio Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig: Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.