BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi eisiau diogelu eich busnes ar gyfer y dyfodol?

Mae Cynnal Cymru yn arbenigwyr cynaliadwyedd yng Nghymru ac yn darparu cyngor, hyfforddiant a chysylltiadau i helpu’ch sefydliad i wneud penderfyniadau beiddgar am ddyfodol tecach a mwy diogel.

Er mwyn i'ch busnes ffynnu, mae angen iddo fod yn addas ar gyfer y dyfodol - yn barod i ymdopi â heriau newid yn yr hinsawdd a’r cyflenwad o adnoddau naturiol, yn gallu denu a chadw staff, a chwarae rôl gadarnhaol yn eich cymuned. 

P’un ai a ydych chi eisiau diogelu eich busnes ar gyfer y dyfodol yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, helpu i ddiogelu ac adfywio natur, neu greu swyddi sy'n gwella bywydau a chymunedau, gall Cynnal Cymru eich helpu i gael canlyniadau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol Cyngor – Cynnal Cymru – Sustain Wales

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Darganfyddwch fwy ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.