Pecynnau adnoddau
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Sut i roi cyfleoedd i'ch gweithwyr o ran mynediad, twf a chynnydd
I unigolion, mae manteision mynediad at waith o ansawdd da a chyfleoedd dysgu a datblygu perthnasol yn glir. Gall cael cyfleoedd nid yn unig i weithio, ond i ddatblygu a thyfu yn eu rôl wella eu cyfleoedd mewn bywyd yn sylweddol, gan bennu eu potensial o ran cyflogaeth ac enillion a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer symudedd cymdeithasol.
Ond beth am y manteision i chi fel cyflogwr?
Dyma rai o’r ffyrdd y gall rhoi’r cyfleoedd sydd eu hangen ar eich gweithwyr o ran mynediad, twf a chynnydd fod o fudd i berfformiad eich busnes:
- Drwy weithredu dull cynhwysol o ran recriwtio a datblygu gweithlu, megis cynhwyso’r model cymdeithasol o anabledd a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad a dilyniant, gall cyflogwyr ddatblygu sefydliadau amrywiol lle mae talentau o bob rhan o’r farchnad lafur, yn cynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u defnyddio
- Mae gweithwyr y buddsoddir yn eu sgiliau a’u dysgu yn fwy tebygol o fod yn deyrngar ac yn ymroddedig i’w swyddi.
- Mae sgiliau gweithlu o lefel uchel yn hanfodol i gynhyrchiant busnes a ffyniant economaidd a byddant yn galluogi eich sefydliad i ateb gofynion busnes nawr ac yn y dyfodol.
- Mae cefnogi dysgu mewn llif gwaith yn uchel ar agenda llunwyr polisi a chyflogwyr ar draws y byd. Mae’n helpu i gymell eich gweithwyr ac yn cynyddu lefelau boddhad a lefelau cadw staff.
- Bydd cael gweithdrefnau hyrwyddo tryloyw ar waith yn cymell staff i symud ymlaen o fewn y sefydliad ac aros gyda’r cwmni am gyfnod hirach.
- Mae manteision cymdeithasol ehangach hefyd. Mae darparu cyfleoedd teg yn cael gwared ag anghydraddoldeb yn farchnad ac anghydraddoldebau cysylltiedig, yn lleihau costau dyrannu adnoddau aneffeithlon ac yn helpu i greu cymdeithas decach, gynhwysol a chydlynol.
Beth allaf ei wneud fel cyflogwr i sicrhau cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd ar gyfer fy staff?
Felly, rydych chi’n deall sut gall rhoi cyfleoedd i’ch gweithwyr o ran mynediad, tyfu a chynnydd fod o fudd i’ch busnes chi yn ogystal â’r gweithwyr eu hunain, ond pa gamau allwch chi eu cymryd i wireddu hyn yn eich sefydliad?
Dyma rai camau ymarferol i’w hystyried:
Manteisio ar gynlluniau cenedlaethol sy’n cefnogi cyfranogiad cynhwysol i waith teg
Nid yw pawb ar draws cymdeithas yn cael yr un cyfleoedd i gael gwaith teg ac i symud ymlaen yn eu swyddi. Y grwpiau sydd fwyaf tebygol o wynebu rhwystrau yw’r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig (y rhain yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol), y rheiny sydd wedi’u heffeithio gan anfantais economaidd-gymdeithasol, a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn ei gwneud yn haws i amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd wneud cais i weithio gyda chi ac i sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad a chyfle i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Gallai cymhwyso’r model cymdeithasol o anabledd a siarad â gweithwyr ynghylch addasiadau rhesymol yn y gwaith fod o gymorth i gael gwared ar rai o’r rhwystrau hyn o bosib.
Roedd y gwahaniaeth rhwng cyfraddau cyflogaeth pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl – neu’r bwlch cyflogaeth anabledd – yng Nghymru yn 2020/21 yn 32.9 pwynt canran, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd y DU o 27.9. Er mwyn ceisio lleihau’r bwlch hwn, mae cymhellion ar gael i gyflogwyr yng Nghymru sy’n recriwtio pobl anabl, er enghraifft, taliad o £2,000 i gyflogwyr sy’n cyflogi prentis anabl.
Creu amgylchedd lle mae cynnydd yn cael ei gefnogi, gan fynd i’r afael â rhwystrau gan gynnwys sgiliau a gweithio hyblyg
Mae ymchwil yn dangos bod sefydliadau sydd â diwylliannau dysgu cryf 92% yn fwy tebygol o ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd, a’u bod 52% yn fwy cynhyrchiol. Ond nid yw bob amser yn hawdd i weithwyr gael mynediad at gyfleoedd dysgu, yn enwedig os oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu gartref.
Gall gorfod gofalu am ddibynyddion iau neu hŷn fod yn rhwystr enfawr rhag symud ymlaen yn y gwaith, yn enwedig i fenywod. Mae cyflogwyr yn awr yn cyflwyno polisïau gofalu sy’n llawer mwy priodol ac wedi’u cyd-gynllunio ar gyfer staff, er mwyn sicrhau nad yw eu cyfrifoldebau teuluol yn eu hatal rhag gallu symud ymlaen yn y gwaith.
Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau i wreiddio sgiliau hanfodol
Mae llu o bethau y gall cyflogwyr eu gwneud i feithrin perthynas â sefydliadau addysgol lleol er mwyn denu ac ysbrydoli talent i’r dyfodol a dysgu sgiliau hanfodol iddynt cyn iddynt ymuno â byd gwaith.
Mae’r syniadau’n amrywio o fynd i ffeiriau gyrfaoedd a rhoi sgyrsiau gyrfaoedd mewn ysgolion, i gynnal gweithdai cyflogadwyedd sy’n darparu hyfforddiant cyflogadwyedd (prydlondeb, hyder, disgwyliadau yn y gweithle ac ati) a chynnig lleoliadau gwaith, naill ai i fyfyrwyr lleol neu i grwpiau difreintiedig.
Sicrhau bod dysgu a datblygu perthnasol o ansawdd da ar gael i bob gweithiwr
Bydd cael cynllun hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer gweithwyr ar bob lefel yn eich helpu i ddiogelu eich cwmni ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i fodloni gofynion busnes nawr ac yn y dyfodol.
Yn ogystal â hyfforddiant, cynigiwch adborth rheolaidd, llwybrau hyrwyddo clir wedi’u strwythuro’n dda i’ch staff yn ogystal â chynlluniau mentora, i’w gwneud mor hawdd ac mor ddeniadol â phosibl i weithwyr ar bob lefel o’ch gweithlu ffynnu.
Mesur effaith eich gweithgareddau hyfforddi a datblygu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno prosesau sy’n costio ac yn meincnodi unrhyw weithgareddau dysgu a datblygu rydych chi’n eu gwneud, ac yn hyrwyddo’r manteision i staff er mwyn annog cyfranogiad.
Yn ôl What Works Wellbeing, amcangyfrifir bod dilyn cwrs rhan-amser ar gyfer gwaith dros 12 mis yn rhoi buddion llesiant sy’n cyfateb i £1,584 o incwm y flwyddyn.
Cynnal adolygiadau canol gyrfa i alluogi gweithwyr i nodi nodau gyrfa priodol a chyfleoedd datblygu
Ni ddylai oed fod yn rhwystr mewn gwaith. Er bod ganddynt gyfoeth o brofiad uniongyrchol a sgiliau amhrisiadwy, mae gweithwyr hŷn yn aml yn cael eu hanwybyddu ar gyfer dyrchafiad ac nid ydynt yn cael cyfle i wneud y gorau o’u cyfraniad yn y gwaith.
Drwy ymrwymo i adolygiadau canol gyrfa a sicrhau bod cyfleoedd ar gael i weithwyr wrth iddynt nesáu at ail hanner eu gyrfaoedd, byddwch yn cael y gorau o’ch gweithwyr mwy profiadol drwy eu hannog i barhau i ddatblygu sgiliau newydd a chymryd mwy o gyfrifoldeb.
Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael mynediad at hyfforddiant mewn cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, ac yn cael hyfforddiant o’r fath
Drwy wneud yn siŵr bod eich holl staff wedi’u hyfforddi mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth, byddwch yn creu gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol. Mae achos busnes clir dros hyn gan fod cael lleisiau mwy amrywiol o gwmpas byrddau gwneud penderfyniadau yn caniatáu i benderfyniadau gwell gael eu gwneud sy’n cefnogi bywydau mwy o bobl.
Pecyn cymorth - Cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd
Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.
Os ydych chi’n awyddus i roi amrywiaeth o gyfleoedd i’ch gweithwyr gael mynediad at waith, i dyfu a datblygu, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae cyfoeth o offer ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad ond mae gwybod sut i lywio drwy’r holl wybodaeth yn gallu bod yn her, felly rydyn ni wedi casglu rhai o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:
Datblygu Sgiliau yn y Gweithle yn y DU | Taflenni Ffeithiau | CIPD
Er mwyn sicrhau talent gynaliadwy ac effeithiol a chynllunio olyniaeth, mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn deall eu hanghenion busnes nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o’r cyd-destun sgiliau ehangach a’r amgylchedd polisi yng Nghymru a ledled y DU.
Mae’r daflen ffeithiau hon yn edrych ar natur a nodau allweddol polisi sgiliau’r DU. Mae’n edrych ar y sefyllfa sgiliau yn y DU, gan ymdrin â chynhyrchiant isel, yn ogystal â chyngor gyrfaoedd, y farchnad lafur i raddedigion, ac anghydnawsedd sgiliau.
Recriwtio prentis: canllawiau i gyflogwyr | LLYW.CYMRU
Gall cyflogi prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a’i sylfaen sgiliau. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn amlinellu’r manteision a’r broses ar gyfer recriwtio prentis ac yn egluro sut gall cyflogwyr gael gafael ar gymorth Llywodraeth Cymru tuag at gost hyfforddiant ac asesiadau.
Dysgu yn Llif y Gwaith | Taflenni Ffeithiau | CIPD
Mae’r daflen ffeithiau hon yn edrych ar beth mae ‘helpu pobl i ddysgu’ yn ei olygu mewn cyd-destun gweithle. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd economaidd sgiliau yn y gweithle ac yn rhestru ffyrdd pendant i gyflogwyr allu mesur sgiliau a galluoedd eu gweithlu.
Mae hefyd yn cyfeirio at ddamcaniaethau sy’n esblygu ynghylch cefnogi dysgu, gan edrych ar symud oddi wrth hyfforddiant i ddysgu. Bydd yn eich helpu i ystyried y materion strategol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â helpu pobl i ddysgu, gan edrych hefyd ar y graddau y mae cynlluniau dysgu yn fwyaf effeithiol.
Model Cymdeithasol a Anabledd | Llwyodraeth Cymru
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gwahaniaethu rhwng ‘amhariad’ ac ‘anabledd’. Mae’n cydnabod bod pobl sy’n byw gydag amhariadau yn wynebu rhwystrau sy’n eu gwneud yn anabl yn y gymdeithas neu yn y gweithle. Dysgwch fwy neu cofrestrwch ar gyfer yr hyfforddiant yma.
Dysgu a Datblygu Sut i Brisio a Meincnodi | Taflenni Ffeithiau | CIPD
Mae’n anochel y bydd dysgu a datblygu yn arwain at gostau uniongyrchol ac anuniongyrchol i gyflogwyr, ac er bod y buddion anniriaethol yn glir, gall fod yn anodd mesur elw gwirioneddol ar y buddsoddiad hwn.
Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi arweiniad ar sut i gostio gweithgareddau dysgu a datblygu, gan roi gwybodaeth am sut i feincnodi’r gweithgareddau hyn a rhoi cipolwg ar gryfderau a gwendidau meincnodi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.