Pecynnau adnoddau
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Sut i barchu hawliau cyfreithiol eich gweithwyr
Mae pob cyflogwr wedi’i rwymo gan gyfreithiau cyflogaeth ac iechyd a diogelwch, neu o leiaf, yn glynu wrth y gofynion sylfaenol statudol. Mae peidio â chydymffurfio â’r cyfreithiau hyn nid yn unig yn arwydd clir o waith annheg, ond yn anghyfreithlon ac mewn rhai achosion, megis caethwasiaeth fodern a dwyn cyflog, gallent gael eu hystyried yn drosedd.
Fel cyflogwr, mae’n ofynnol nad ydych yn ceisio osgoi safonau cyflogaeth statudol a dylech sicrhau bod gan eich gweithwyr fynediad at wybodaeth ynghylch eu hawliau. I fod yn gyflogwr Gwaith Teg gwirioneddol, mae’n rhaid i chi fynd y tu hwnt i ddyletswyddau a safonau cyfreithiol sylfaenol ar gyfer eich gweithwyr yn ogystal ag ystyried pa gamau y gallwch eu rhoi ar waith i waredu arferion anghyfreithlon ac anfoesol o fewn eich cadwyni cyflenwi.
Gall hyn fod o fudd i berfformiad eich busnes mewn amrywiaeth o ffyrdd:
- Drwy ymgysylltu’n adeiladol â’ch staff i ddod i gytundeb gwirfoddol ar unrhyw newidiadau cytundebol neu ddeddfwriaethol sy’n effeithio arnynt, gallwch ddangos eich bod yn gyflogwr agored a thryloyw, sy’n rhoi eich pobl wrth galon y sefydliad.
- Mae parchu hawliau cyfreithiol eich staff yn lleihau’r risg o ymgyfreitha sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a’r costau iawndal sylweddol y gall hyn eu hachosi – heb sôn am yr amser, yr adnoddau a’r tarfu posibl sy’n deillio o unrhyw achos cyfreithiol.
- Mae trin eich gweithwyr â pharch fel hyn yn helpu i feithrin gweithlu sy’n ymgysylltu’n well, gan eich galluogi i gadw sgiliau allweddol, gweithwyr llawn cymhelliant a diogelu perthynas gadarnhaol â staff ac undebau, ac arbed costau newid staff.
- Gall dangos ymrwymiad i barchu hawliau cyfreithiol eich gweithwyr hefyd helpu i feithrin hyder yn systemau llywodraethu a moeseg eich sefydliad, creu enw da cadarnhaol i’ch busnes ac arwain at fwy o werthiant a theyrngarwch cwsmeriaid, wrth i ddefnyddwyr chwilio am fusnesau sydd â safonau moesegol uwch.
- Mae manteision cymdeithasol ehangach hefyd. Mae ymyriadau fel absenoldeb salwch digonol â thâl, nid yn unig yn elfennau pwysig o waith teg, ond gallant hefyd gefnogi mesurau iechyd cyhoeddus i ddiogelu ein poblogaeth, er enghraifft drwy gefnogi’r gweithwyr hynny sydd â chlefydau heintus i ynysu gartref.
Beth allaf ei wneud fel cyflogwr i sicrhau bod hawliau cyfreithiol fy staff yn cael eu parchu?
Felly, rydych chi’n deall sut gall yr egwyddor Gwaith Teg benodol hon fod o fudd i’ch busnes chi yn ogystal â’ch gweithwyr, ond pa gamau allwch chi eu cymryd i wireddu hyn yn eich sefydliad?
Dyma rai pethau ymarferol i’w hystyried:
Gwella eich dealltwriaeth o hawliau gweithwyr, cyfrifoldebau cyflogwyr a gorfodaeth
Mae’r materion mwyaf cyffredin sy’n ymwneud â hawliau cyfreithiol gweithwyr yn gysylltiedig â’u tâl a’u hawliadau, yn enwedig lefelau tâl, gwyliau blynyddol, tâl gwyliau, tâl salwch a didyniadau anghyfreithlon, yn ogystal â’u telerau ac amodau cyflogaeth, cwynion, dileu swyddi a diswyddo.
Y ffordd orau o osgoi’r math hwn o broblem yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau cyfreithiol i’ch staff, bob amser a pheidio byth â cheisio cyflwyno llwybrau byr. Mae codau ymarfer ACAS yn rhoi arweiniad ar y safonau gofynnol o ran tegwch y dylai pob cyflogwr lynu wrthynt.
Glynu wrth yr holl rwymedigaethau statudol i’ch gweithwyr a pheidio â cheisio eu torri
Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion i’w dileu, mae arferion cyflogaeth anfoesol sydd wedi’u cynllunio i osgoi cydymffurfio â hawliau a buddion statudol gweithwyr yn dal yn gyffredin ledled Cymru a’r DU.
Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin yw, yn gyntaf, dosbarthu unigolion fel unigolion hunangyflogedig neu weithwyr yn hytrach na chyflogeion er mwyn osgoi gorfod bodloni eu hawliau cyflogaeth, ac yn ail, diswyddo gweithwyr, ac ailgyflogi ar ôl bwlch i’w hatal rhag gallu cael mynediad at y mesurau diogelu statudol y dylent fod â hawl iddynt. Nid yw’r un o’r arferion hyn yn cyd-fynd â’r egwyddorion Gwaith Teg a dylid eu hosgoi.
Cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod hawliau cyfreithiol eich gweithwyr yn ystyrlon yn ymarferol
I fod yn gyflogwr Gwaith Teg go iawn, ystyriwch bwysigrwydd sut y gellir cymhwyso hawliau cyfreithiol eich gweithwyr yn y gweithle, yn hytrach na dibynnu ar orfodaeth allanol. Er enghraifft, yn hytrach na dim ond ‘peidio â gwahaniaethu yn erbyn’ unigolion â nodweddion gwarchodedig, datblygu a gweithredu cynllun cynhwysfawr i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, cynnwys gweithwyr drwy eu cynrychiolwyr, gan roi sylw i sut gall pawb ryngweithio, a monitro gweithrediad a chanlyniadau.
Yn hytrach na disgwyl i unigolyn arfer yr hawl statudol i ofyn am hyblygrwydd, bydd gwir gyflogwr Gwaith Teg yn hwyluso ac yn cynnig trefniadau hyblyg ym mhob swydd.
Dylech ystyried talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW) i bob gweithiwr o leiaf
Mae pobl ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol ar hyn o bryd o ran costau byw, yn enwedig y 223,000 o weithwyr yng Nghymru sy’n dal i ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol.
Rydym yn deall bod busnesau’n wynebu pwysau ariannol enfawr hefyd, felly efallai na fydd ymrwymo i wario mwy ar gyflogau staff yn ymddangos yn ymarferol. Mae cynyddu cyflogau i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn enghraifft wych o fynd y tu hwnt i ofynion sylfaenol statudol a bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eich gweithwyr, yn ogystal â bod o gymorth i ddenu a chadw staff talentog, gan arbed arian i’ch busnes yn yr hirdymor./p>
Er bod y ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ a bennwyd gan y llywodraeth yn berthnasol i bobl dros 23 oed a hŷn, ac mae wedi’i bennu fel canran o enillion canolrifol, mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn berthnasol i bawb dros 18 oed ac mae’n cael ei bennu gan gyfrifiad annibynnol yn ôl costau byw, yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau.
Ymrwymo i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern
Mae caethwasiaeth fodern yn dal yn gyffredin iawn yn y DU, gyda 5,144 o droseddau wedi’u cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019. O’r 2,251 o ddioddefwyr posibl a gefnogwyd gan Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019, roedd 48% wedi profi camfanteisio ar weithwyr, a 39% wedi profi camfanteisio rhywiol.
Mae’n ofynnol i bob sefydliad masnachol sydd â throsiant blynyddol o dros £36m sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau yn y DU gyhoeddi datganiad caethwasiaeth fodern. Hyd yn oed os nad yw’r meini prawf hyn yn berthnasol i’ch sefydliad, gallwch gymryd camau rhagweithiol i ddileu arferion cyflogaeth anfoesol ac anghyfreithlon yn eich cadwyn gyflenwi a derbyn cyfrifoldeb ar y cyd dros fynd i’r afael ag unrhyw dor-cyfraith.
Bydd dysgu sut i adnabod arwyddion o gamfanteisio ar weithwyr a sut i roi gwybod amdano yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem barhaus hon.
Gwneud yn siŵr bod eich gweithwyr yn glir ynghylch eu hawliau cyflogaeth a thelerau eu contract
Rhowch ddatganiad hawdd ei ddeall i bob gweithiwr o’u statws cytundebol, eu telerau ac amodau penodi a’u hawliau cyflogaeth ar eu diwrnod cyntaf, ac adolygu hyn bob blwyddyn. Gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael cyngor a gwneud iawn os oes angen, gan gynnwys sut i gysylltu ag undeb llafur.
Gwrthwynebu’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi
‘Diswyddo ac ailgyflogi’ yw’r derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio’r arfer y mae cyflogwyr yn ei ddefnyddio weithiau wrth geisio newid telerau contract gweithwyr.
Mae’n golygu diswyddo gweithwyr a’u hailgyflogi ar unwaith ar gontract newydd gyda thelerau newydd. Er nad yw hyn o dan bob amgylchiad o bosibl yn groes i ddeddfwriaeth cyflogaeth, nid yw’n cyd-fynd ag egwyddorion ac arferion disgwyliedig Gwaith Teg, felly ni ddylid ystyried hyn yn opsiwn ymarferol wrth geisio newid telerau contractau.
Pecyn cymorth - Parchu hawliau cyfreithiol
Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.
Felly, nawr eich bod yn gwybod pam ei bod mor bwysig parchu hawliau cyfreithiol eich gweithwyr, sut mae dechrau arni? Mae cyfoeth o offer ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad ond rydym yn gwybod bod llywio drwy’r holl wybodaeth yn gallu bod yn her, felly rydyn ni wedi casglu rhai o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:
Cyflogaeth foesol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, canllaw a hyfforddiant | LLYW.CYMRU
Mae adnodd ar-lein Llywodraeth Cymru yn cynnwys cod ymarfer sy’n amlinellu’r 12 ymrwymiad i arferion cyflogaeth da a ddisgwylir gan unrhyw un sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â chanllawiau a hyfforddiant i helpu sefydliadau i ddileu arferion cyflogaeth anfoesol yn eu cadwyni cyflenwi.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw: Trosolwg - GOV.UK
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o’r Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw, yn egluro pwy sy’n ei gael, sut mae ei gyfrifo a sut mae delio ag unrhyw anghydfod ynghylch yr Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw.
BS 25700:2022 Ymatebion sefydliadol i gaethwasiaeth fodern – Canllaw | BSI
Mae BSI wedi cyhoeddi’r safon genedlaethol hon i roi cyngor ac arweiniad i sefydliadau ar sut i reoli risgiau caethwasiaeth fodern yn eu gweithrediadau, cadwyni cyflenwi a’r amgylchedd gweithredu ehangach. Mae’n cynnwys canllawiau ar atal, adnabod, ymateb, adfer, lliniaru ac adrodd.
Hyfforddiant - Tanysgrifiad - ACAS
Fel cyflogwr, gallwch gofrestru yma i gael diweddariadau am ddim gan ACAS ar newidiadau mewn deddfwriaeth cyflogaeth, newyddion cysylltiedig, nodweddion cynghori AD, digwyddiadau a hyfforddiant yn eich ardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.