Y Prosiect:
Bu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Aston Martin yn cydweithio drwy Bartneriaeth. Mae hon yn fenter 12 mis rhwng cwmni a phrifysgol sy'n edrych ar brosiect sy'n canolbwyntio ar gynyddu capasiti a gallu mewn busnes. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 50% o gyllid ar gyfer costau'r prosiectau hyn ac mae partner y cwmni yn gymwys i dalu'r costau sy'n weddill..
Bu dau aelod o staff academaidd o'r Ysgol Peirianneg yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE), gyda chefnogaeth gan y Gwasanaethau Arloesi a Menter Ymchwil (RIES) yn PCYDDS yn gweithio gydag Aston Martin i ddatblygu prosiect a oedd yn edrych ar ddatblygu ac optimeiddio eu proses bondio.
Penododd y prosiect ddau Gymar Ymchwil i weithio ar y prosiect dan gefnogaeth a goruchwyliaeth y ddau academydd a dau oruchwyliwr cwmni.
Documents
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.