Mae Motorsport Tools wedi bod yn cyflenwi darnau ac offer ar gyfer ceir i’w ddefnyddio ar y ffyrdd ac wrth ralïo ers bron i 20 mlynedd. Heddiw, mae cymorth Busnes Cymru yn helpu’r cwmni adwerthu yng Ngwynedd i ddefnyddio tactegau newydd, a fydd yn mynd â’r busnes i’r lefel nesaf.
Dros y degawd diwethaf, mae, Motorsport Tools wedi tyfu i fod yn un o gyflenwyr offer ralïo a rasio arbenigol mwyaf blaenllaw’r DU. Ers 2008, mae Carwyn Ellis o Bwllheli wedi bod yn gweithio’n galed i droi ei ddiddordeb oes mewn chwaraeon modur yn wirionedd proffesiynol.
Gydag ehangu mewn golwg, roedd Carwyn yn teimlo bod yna gyfle ar gyfer twf pellach. Yn 2020, trodd at Busnes Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer tyfu’r busnes ac i ofyn am gyngor ar ffynonellau cyllid posibl a fyddai’n helpu i ehangu ei waith i farchnadoedd newydd.
Cafodd ei gysylltu â Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Richard Fraser-Williams, rhywun roedd e wedi gweithio gydag ef yn gynt yn oes y cwmni. Ar ôl clustnodi anghenion y busnes, bu modd i Richard gysylltu Carwyn â Dr Ann Sudder, arbenigydd arloesi gyda Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Carwyn:
Ar ôl adeiladu’r busnes, mae’r cyfle i drafod fy nodau gydag arbenigwyr busnes allanol wedi bod yn fuddiol dros ben. Bu gwaith ymchwil a chymorth datblygu Dr Sudder yn allweddol i ni wrth lunio cynllun busnes i symud ymlaen i ddechrau adeiladu ceir gyda’r dechnoleg rydyn ni’n ei chyflenwi.
Rhoddodd Richard gymorth pellach i Carwyn i wneud cais llwyddiannus am gyllid trwy’r rhaglen ARFOR - rhaglen sy’n cael ei gweinyddu gan 4 awdurdod lleol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr â’r nod o gefnogi datblygiad economaidd a’r Gymraeg. Yn ogystal â grant ARFOR, cynorthwyodd yr ymgynghorydd busnes gyda chais i Gronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd, a arweiniodd at ddyfarniad o dros £100K a ganiataodd i’r cwmni ehangu ei arlwy o offer a chydrannau.
Aeth Carwyn ymlaen i ddweud:
Fyddwn i ddim wedi gallu cyflwyno cais llwyddiannus am grant heb gymorth Richard. Mae arweiniad arbenigwyr â phrofiad helaeth o fusnes ac sy’n deall yr agweddau technegol ar wneud cais am grant wedi bod yn amhrisiadwy.
Ers hynny, mae Motorsport Tools wedi cyflymu ei gynhyrchiant a’i allbwn, sydd wedi cael effaith gadarnhaol uniongyrchol wrth gynyddu gwerthiannau, ac wedi galluogi Carwyn i gyflogi rhagor o weithwyr. Mae ei lwyddiant wedi caniatáu i Carwyn agor ail fusnes, MST Cars, lle mae e a’i weithwyr yn adeiladu ceir “restormod”, sy’n cyfuno ceir clasurol â thechnoleg fodern. Mae’r modelau hynod boblogaidd yma, y mae galw mawr amdanynt ymysg casglwyr a phobl sy’n caru ceir, yn cynnwys y Ford Escort rasio.
Dywedodd Richard Fraser-Williams, Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru:
Mae angerdd ac arbenigedd Carwyn wedi galluogi iddo ddatblygu busnes arbennig, ond weithiau, y cyfan sydd ei angen yw safbwynt a phrofiad rhywun o’r tu allan i helpu entrepreneuriaid i gymryd y cam nesaf. Mae hi’n braf iawn gweld y busnes yn llewyrchu diolch i’r cynlluniau ehangu mae Carwyn wedi eu rhoi ar waith. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynorthwyo’i fusnes wrth i’r cyfleusterau cynhyrchu a’r tîm barhau i dyfu.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd newydd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.