Arallgyfeirio cyflym i fusnes therapi cyfannol a lansiodd yn ystod y cloi mawr.
Cyflwyniad i'r busnes
Yn therapydd holistig cymwys, adweithegydd ac ymarferydd Reiki, lansiodd Clare Walters ei busnes 'Clare Walters Healing' yn Abertawe ym mis Mawrth 2020, gan gynnig hyfforddiant bywyd a therapi holistig arbenigol ar-lein, yn ogystal â hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Pa heriau a wyneboch yn ystod argyfwng y Coronafeirws?
Megis cychwyn oeddwn i cyn yr argyfwng: Roeddwn i'n adeiladu fy mhresenoldeb ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio Facebook byw ac ati, ond roedd fy mhrif sylfaen cleientiaid yn mynd i fod yn lleol, gyda chwsmeriaid yn dod i stiwdio ioga a lles mewn neuadd gymunedol yn Eglwys Clydach.
Roeddwn wedi buddsoddi mewn rhaglen mentora busnes drwy Facebook fel hwb ar gyfer llwyddiant a blaengynllunio hefyd.
Pan ddigwyddodd y feirws, gwnaeth i mi deimlo braidd yn sigledig. Roeddwn i'n bwriadu cyflwyno gweithdy lle roeddwn i'n mynd i addysgu iachâd egni, ond roedd yn rhaid canslo'r gweithdy. Roedd rhai pobl oedd wedi talu blaendaliadau eisiau ad-daliad, a gorfododd hyn i mi ddefnyddio cerdyn credyd newydd er mwyn gallu fforddio eu talu'n ôl. Yn ogystal, roedd gennyf aelodau o'r teulu a oedd yn wael gyda Coronafeirws, oedd yn ychwanegu pryder enfawr. Diolch byth, maent wedi gwella'n llwyr!
Fodd bynnag, roedd fy musnes ar ei hôl hi gan fy mod i'n gyfrifol am siopa a chasglu meddyginiaethau ar gyfer aelodau o'r teulu a oedd naill ai mewn perygl o ddal y feirws, neu eisoes yn sâl gyda'r feirws. Roedd pobl hefyd yn poeni am arian, felly ni chefais unrhyw archebion yn ystod y mis cyntaf. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, roedd fy meddwl ar chwâl a chefais ambell ddiwrnod tywyll, hunandosturiol.
Pa fesurau a weithredwyd gennych i fynd i'r afael â'r pandemig?
Er hynny, mae pethau'n edrych yn well bellach. Ar ôl i neuadd yr Eglwys gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau, dechreuais gynnig sesiynau un-i-un a dosbarthiadau grŵp ar-lein, a'm galluogodd i barhau i weithio ac ymgysylltu â'm cleientiaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Yn raddol, rwy'n cael mwy o archebion ar-lein ac ar hyn o bryd, rwyf ar ganol creu systemau cymorth fel rhestr e-bost drwy 'Malier Light'. Rwyf hefyd yn ymchwilio i greu tudalennau 'optio mewn' a 'diolch' yn ogystal â gwefan, yn ddibynnol ar gyllid.
Mae hyn oll i hyrwyddo ac adeiladu Urdd rhithwir newydd lle bydd pobl yn talu ffi misol penodol dros 4 mis gan ddechrau ym mis Gorffennaf (rwyf yn rhoi 6 wythnos i mi fy hun i ddod i arfer â'r ochr dechnolegol o greu, hyrwyddo a gwerthu).
Sut mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi helpu?
Cysylltodd Clare â Busnes Cymru pan benderfynodd sefydlu'i busnes iacháu ei hun, gan ddefnyddio Therapi Pellowah. Ceisiodd brofi'r cysyniad busnes ymhlith ffrindiau a theulu, ac roedd yr adborth cadarnhaol a gafodd yn dangos bod galw am ei gwasanaeth.
Ar ôl dod o hyd i safle addas yn ardal Clydach, Abertawe, bu Clare yn gweithio gyda chynghorydd dechrau busnes Busnes Cymru, Hywel Bassett, ar ei chynllun busnes a phob mater yn ymwneud â dechrau busnes, gan gynnwys gofynion cyfreithiol, treth a chadw cyfrifon, ymysg pethau eraill.
O ganlyniad i'r gefnogaeth, llwyddodd Clare i sefydlu 'Clare Walters Healing' ym mis Mawrth 2020, lle mae hi bellach yn gweithio'n llawn amser.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.