BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cymorth Busnes Cymru’n galluogi busnes o’r Canolbarth i lenwi bwlch yn farchnad feddygol

Ambulances

Mae cwmni meddygol a gychwynnwyd yn Rhaeadr Gwy yn esiampl wych o sut y gall y cymorth cywir helpu entrepreneuriaid i droi bwlch yn y farchnad yn fusnes y mae galw mawr amdano.  

Sefydlwyd y busnes gan y gweithwyr meddygol proffesiynol, Paul Cragg a Martyn Price, ynghyd â thri buddsoddwr meddygol proffesiynol arall, ac mae Mid Wales Medical Services Ltd wedi ennill ei blwyf ers cysylltu â Busnes Cymru i ofyn am gymorth ymarferol i sefydlu’r busnes a dod o hyd i ffynonellau cyllid addas. 

Mae Mid Wales Medical Services yn darparu cymorth meddygol mewn digwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys gemau chwaraeon, gwyliau a sioeau ceffylau, dan ofal  gweithredwyr ambiwlans cymwys ac ymarferwyr clinigol uwch. Mae’r busnes yn cynnig gwasanaeth cludo cleifion preifat a hyfforddiant cymorth cyntaf i fusnesau yn y Canolbarth hefyd.

Diolch i arweiniad marchnata digidol gan Busnes Cymru, yn ystod ei flwyddyn gyntaf o weithredu, mae Mid Wales Medical wedi derbyn 80 o archebion ac wedi bod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau mawr fel Jack Frost Enduro a gornest  ymladd yr UWCB a’r MMA - a byddant yn gwasanaethu Gŵyl y Gelli, EnduroGP yng Nghymru, a’r Adventure Overland and Campervan Show yn Stratford dros yr haf.

Gyda 75 mlynedd cyfunol o brofiad yn y maes meddygol a rheoli digwyddiadau, mae gan y tîm craidd, y mae pedwar ohonynt yn barafeddygon profiadol ym maes gofal brys yn y GIG, 30 o staff meddygol trwyddedig ar gontract hefyd sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau mawr os oes angen presenoldeb meddygol mwy. 

Cyn sefydlu Mid Wales Medical Services, roedd Martyn Price, a’i gyd-gyfarwyddwr yn cydnabod bod yna ddiffyg gwasanaethau meddygol o safon oedd yn cynnig sicrwydd iechyd, diogelwch a llesiant ar gyfer digwyddiadau mawr yn y Canolbarth. Yn rhy aml, lleoliad daearyddol a natur wledig Powys oedd y prif rwystr rhag cyrchu gwasanaethau mor hanfodol. 

Gyda’u profiad meddygol a’u dirnadaeth o’r diwydiant digwyddiadau, roedd y tîm yn hyderus y byddai modd iddynt ddarparu gwasanaethau achub bywyd, ond roedden nhw’n gwybod y byddai angen cymorth gan arbenigwyr â dirnadaeth o’r byd busnes go iawn arnynt i lwyddo. Felly cysylltodd Martyn â Busnes Cymru i ofyn am arweiniad yn ystod y broses o ddechrau’r busnes.

Rhoddodd y cynghorydd busnes, Ian Harvey, gymorth i Martyn i lunio cynllun busnes ac ystyried strategaeth llif arian addas. Wedyn aeth Ian ati i gynorthwyo’r busnes i greu hunaniaeth brand, gan gynnwys datblygu’r pennawd “Gwasanaethau Proffesiynol y Tro Cyntaf, Bob Tro”. Symudodd y ffocws wedyn i glustnodi cyfleoedd i’r busnes ei hyrwyddo ei hun trwy hysbysebu, a sefydlu presenoldeb cadarn ar y cyfryngau cymdeithasol trwy Facebook er mwyn ymgysylltu â darpar-gleieintiaid. Er mwyn lansio’r gwasanaeth, sefydlodd Martyn wefan a thudalen Facebook lle gallai busnesau gofrestru am hyfforddiant meddygol, a lle gallai trefnwyr digwyddiadau gomisiynu gwasanaethau.

Dywedodd Ian:

Mae Martyn wastad yn awyddus i ddysgu sut i wella arferion busnes Mid Wales Medical Services. Mae’r sicr y bydd yr angerdd yma, o’i gyfuno â’i brofiad yn y byd meddygol a’i wybodaeth am y sector digwyddiadau, yn cynorthwyo’r busnes i barhau i dyfu. Trwy ymgysylltu â chymorth pwrpasol fesul un, adnoddau ar lein, a gweminarau Busnes Cymru, mae’r busnes wedi gallu troi gwasanaethau achub bywyd yn fusnes â photensial aruthrol.

Bellach, mae Ian yn cynorthwyo Martyn i gyrchu cyllid i ehangu’r fflyd o ambiwlansys, datblygu sgiliau staff trwy hyfforddiant ychwanegol, a dod o hyd i safle parhaol i gynnal eu gweithrediadau.

Mae Martyn wedi manteisio hefyd ar seminarau a chyrsiau ar lein Busnes Cymru i ddysgu am gyfrifeg, rheoli busnes a marchnata, a lansiwyd Mid Wales Medical Services yn swyddogol yn Chwefror 2023. 

Wrth drafod y cymorth a gafodd gan Busnes Cymru, dywedodd Martyn Price: 

Roedd arweiniad Busnes Cymru yn bwysig i adeiladu proffil cyhoeddus Mid Wales Medical Services a datblygu ein hunaniaeth fel cwmni.

Cynigiodd Ian gymorth ymarferol a chyfoeth o adnoddau i ni ar brosesau rheoli a busnes. Roedd e wastad ar gael i gynnig help llaw ac i ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i. Helpodd i sicrhau ein bod ni’n taro ein holl gerrig milltir, a’n bod ar y trywydd iawn o ran nodau’r busnes.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.