Gyda chymorth Busnes Cymru, gallwn barhau i ddatblygu credadwyedd a chael effaith hyd yn oed yn fwy.
Gyda 13 blynedd o brofiad o redeg busnes yn Sri Lanka, gyda 80 o weithwyr a dwy uned fusnes strategol, penderfynodd Mahesh Dilhan ddechrau ei fusnes ei hun, Dynamic X Plus Ltd, yng Nghymru. Mae'r cwmni yn cynnig datrysiadau, gan gynnwys rendro 3D a VR, yn ogystal â meddalwedd heb god (workhub24) ar gyfer y diwydiannau adeiladwaith, gweithgynhyrchu a mwy.
Gydag uchelgais i adeiladu busnes llwyddiannus yng Nghymru, cafodd Mahesh a Camerun gymorth ac arweiniad gan ei gynghorydd Busnes Cymru, a oedd yn golygu dadansoddi'n fanwl sector y farchnad, a chynnal ymchwil i'r farchnad, gan alluogi Mahesh a Camerun i gyrraedd cwsmeriaid posibl newydd.
Mae Mahesh wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan gofrestru fel cyflogwr cyflog byw achrededig a bydd yn gweithredu gwerthusiadau staff rheolaidd.
Yn ogystal, er mwyn annog y busnes i gymryd camau rhagweithiol, mae wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, gan sicrhau y glynir wrth arfer orau.
Hoffech chi ddatblygu busnes cynaliadwy? Cysylltwch â'r tîm i ddechrau arni! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)