BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ecolegydd yn troi’n entrepreneur annibynnol diolch i gymorth Busnes Cymru

Dr Martin Wilkie

Lansiodd Dr Martin Wilkie Wild Borders Ecology ym mis Medi 2023, yn fuan ar ôl codi ei bac a symud i Bowys. Wedi ei syfrdanu gan fioamrywiaeth amrywiol Cymru, penderfynodd Martin ddod yn ecolegydd annibynnol o’r diwedd, gan wireddu breuddwyd oedd ganddo ers cwblhau doethuriaeth mewn Gwyddorau Cadwraeth ugain mlynedd ynghynt.

Yn ystod yr amser yna, bu Dr Wilkie’n gweithio fel biolegydd cadwraeth, Pennaeth Gwarchodfa Natur, ac yn rhannu ei arbenigedd fel ymchwiliwr gwadd ym Mhrifysgol Southampton, gan oruchwylio myfyrwyr ôl-radd ar waith ymchwil pwrpasol yn y DU ac yn Nwyrain Affrica. Fodd bynnag, roedd byd busnes yn faes hollol newydd i’r gwyddonydd profiadol.

Trodd Martin at Busnes Cymru am gymorth busnes ym mis Medi 2023, a rhoddwyd ef mewn cysylltiad â’r Ymgynghorydd Busnes Gwawr Cordiner, sydd wedi ei gynorthwyo i lunio cynllun busnes, cofrestru fel unig fasnachwr, a llunio strategaeth farchnata. Cyfeiriodd Gwawr Martin at weminarau Busnes Cymru a’i gynorthwyo i wneud cais am gyllid hefyd.

Mae gan gyllid grant y potensial i wneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad Wild Borders Ecology. Bydd hyn yn caniatáu i Martin gymryd rhan mewn cyrsiau datblygu proffesiynol pellach, cyrchu cynlluniau ardystio iechyd a diogelwch, diogelu achrediadau allweddol, a phrynu offer arolygu proffesiynol i’w ddefnyddio wrth gyflawni gwaith maes.

Ers lansio ei fusnes newydd gyda chymorth Busnes Cymru, mae Martin wedi teithio ar draws Cymru a Lloegr gan gynnig cymorth ar lawr gwlad i berchnogion tir a ffermwyr lleol sydd am wella eu rheolaeth gynaliadwy ar dir, adfer cynefinoedd blaenoriaeth, hybu newid cadarnhaol mewn bioamrywiaeth, neu gyfoethogi eu tirweddau naturiol.

Wrth drafod ei fenter, dywedodd Martin:

Rydw i bob amser wedi breuddwydio am fod yn ecolegydd annibynnol, ond roeddwn i am gywreinio fy arbenigedd cyn cymryd y naid. Nawr rydw i ar bwynt yn fy ngyrfa lle mae hi’n teimlo fel yr amser iawn i ddechrau gweithio’n annibynnol. Wedi dweud hynny, rydw i wastad wedi teimlo ychydig bach yn betrus am sut i fynd ati i weithio’n llawrydd. Mae Gwawr wedi gwneud i’r llwybr i entrepreneuriaeth edrych yn syml, ac mae hi wedi bod o gymorth enfawr i mi wrth fy nghynorthwyo i wireddu fy mreuddwyd ers degawd.

Wrth droi at Busnes Cymru, doedd dim clem gen i beth roedd angen i mi ei wneud i ddod yn ecolegydd annibynnol cofrestredig. Rhoddodd Gwawr gymorth i mi baratoi fy nghynllun busnes, o’r dechrau i’r cynlluniau marchnata, sy’n ddogfen broffesiynol i mi ac i’m partneriaid yn y dyfodol. Pan oeddwn i’n cyflawni’r gwaith caib a rhaw yn datblygu fy mhortffolio a pherthnasau â chleientiaid, roedd Gwawr yn anfon gwybodaeth allweddol ataf am fy ardystiadau ac achrediadau diogelwch i gryfhau fy musnes, ac mae hi wedi bod yn fy nhywys i trwy’r gwaith papur cymhleth byth ers hynny. Mae Gwawr wedi codi’r pwysau oddi ar fy ysgwyddau. Alla’i ddim â diolch digon iddi.

Yng ngwanwyn eleni, bydd Martin yn rhannu ei arbenigedd â phrosiect Datblygu Un Blaned bach ei effaith yn rhan o gynllun Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei ddisodli bellach gan Raglen Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru. Fel arbenigydd ecolegol, bydd Martin yn cynorthwyo’r cais datblygu trwy gyflawni asesiadau gwaelodlin ecolegol a chynorthwyo’r cynlluniau i gyfoethogi cynefinoedd ar y tir.   

Dros y misoedd nesaf, bydd Martin yn parhau i ddarparu cyngor a chymorth cadwraeth am bris rhesymol ar gyfer ffermwyr, perchnogion tir a sefydliadau elusennol ar reolaeth sensitif ar diroedd. Mae’n gobeithio hefyd cael gweithio ar brosiectau lleol mewn partneriaeth â sefydliadau pwysig fel yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Trwy interniaethau sydd ar y gweill gyda Wild Borders Ecology, bydd yr arbenigydd yn rhannu ei wybodaeth ag ecolegwyr gweithredol unwaith eto, a fydd, yn eu tro, yn ei gynorthwyo i ehangu gorwelion ei fusnes.

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Gwawr Cordiner: 

Er ei fod yn arbenigydd yn ei faes, roedd Martin yn ddechreuwr pur o ran dechrau busnes. Mae Wild Borders Ecology yn cynnig rhywbeth gwahanol i ymgynghoraeth amgylcheddol yn unig, mae’n cynnig gobaith newydd i berchnogion tir a sefydliadau elusennol sydd am ffrwyno grym bioamrywiaeth a chadwraeth. Rwy’n falch fod Busnes Cymru’n gallu helpu Martin i yrru’r fenter yn ei blaen.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu i lansio’ch busnes chi, cyrchu adnoddau entrepreneuraidd a chyfleoedd am gyllid, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.