BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Hwb ychwanegol i lesiant meddwl diolch i gymorth Busnes Cymru

Jade Ruck

Mae gweithiwr llesiant proffesiynol o Bort Talbot sy’n darparu cymorth ar gyfer teuluoedd a phlant sy’n cael trafferth rheoli ymddygiad ymestynnol a phroblemau iechyd meddwl wedi lansio cwmni llesiant pwrpasol gyda chymorth Busnes Cymru. 

Cyn lansio Impact Wellbeing Solutions Ltd, roedd Jade Ruck wedi treulio 15 mlynedd diwethaf ei gyrfa broffesiynol yn darparu cymorth ar gyfer plant, oedolion ifanc a chyn-aelodau o’r lluoedd oedd yn cael trafferthion o ran llesiant ac iechyd meddwl.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau fel therapi chwarae, datrys anghydfodau a hyfforddiant ysgogiadol, penderfynodd Jade taw’r ffordd orau o fynd ati i helpu pobl yn ei chymuned fyddai sefydlu ei chwmni ei hun. 

Nod Jade oedd creu gwasanaeth a fyddai’n rhyddhau cymorth rhagweithiol trwy ysgolion, grwpiau cymunedol a chleientiaid preifat oedd yn chwilio am ddulliau pwrpasol o wella eu llesiant personol nhw. 

Am ei bod yn deall gwerth cael cymorth gan arbenigwyr cymwys yn eu maes, ym mis Rhagfyr 2023, trodd  Jade at Busnes Cymru i ofyn am arweiniad ar y ffordd orau o fynd ati i gynllunio a lansio ei chwmni. 

Cafodd Jade ei pharu a’r Ymgynghorydd Busnes, Robert Morgan, a awgrymodd gyfres o weithdai i helpu perchnogion busnes newydd i ddatgloi sgiliau newydd iddi.

Meddai Jade: 

Mae Robert wedi bod yn gefn mawr i fi o’r cysylltiad cyntaf un. O’r dechrau’n deg, fe wrandawodd e arnaf i a fy syniadau o ran y math o wasanaeth roeddwn i am ei gynnig, ac roedd ganddo ffydd yn y syniad. Rhoddodd hynny hwb anferth i fy hyder. Ar ôl cymryd yr amser i ddeall fy sgiliau a’m nodau, bu modd i Robert awgrymu opsiynau a rhoddodd gymorth i mi ddysgu a datblygu’r sgiliau oedd eu hangen arnaf i sefydlu fy musnes yn gyflym.

Ar hyn o bryd, mae Jade yn gweithredu trwy deithio i gynnig gweithdai datrys problemau fel tîm a rheoleiddio emosiynau ar gyfer disgyblion mewn ysgol gynradd leol. Mae Jade yn gweithio gyda phlant y mae eu rhieni’n gwasanaethu yn y fyddin, gan eu cynorthwyo i fagu dygnwch emosiynol a hyder.  

Mae hi’n darparu hyfforddiant a chymorth i gyn-aelodau o’r lluoedd yn Hyb Cymunedol y Bulldogs ym Mhort Talbot hefyd. 

Gyda chymorth Robert, gwnaeth Jade gais llwyddiannus am Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes, a ganiataodd iddi brynu offer i ddarparu cymorth angenrheidiol ar gyfer y plant y mae’n gweithio gyda nhw. 

Aeth Jade ymlaen i ddweud:

Pwyntiodd Robert fi i gyfeiriad cyllid a grantiau nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw. Fe ddarllenodd e trwy’r cais cyfan gyda fi a’m cynorthwyo i ymgeisio. Roedd cael y dyfarniad yn wych. Mae hi wedi fy ngalluogi i brynu beth oedd ei angen arnaf i ar gyfer fy ngweithdai, fel eitemau chwarae meddal mawr, a chynnyrch o ansawdd gwell nag y byddwn wedi gallu fforddio fel arall. Yn allweddol, mae ei gymorth wedi golygu bod modd i mi ddarparu gofal o’r safon y mae’r plant yma’n ei haeddu.

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Robert Morgan:

Mae busnes Jade yn unigryw, ac mae hi wir yn credu mewn darparu’r cymorth sydd ei angen ar y plant a’r oedolion ifanc yma i gymryd mwy o reolaeth dros eu hanawsterau a symud ymlaen. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae ei busnes yn datblygu dros y flwyddyn nesaf.

Nodau Jade ar gyfer ei busnes yw parhau i ddarparu gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr ardal leol, a chyflwyno ei gweithdai i ragor o ysgolion yn yr ardal. Hoffai gynnig gweithdai ar gyfer sefydliadau a gweithwyr hefyd fel y gallant siarad am y sialensiau sy’n eu hwynebu a chynnig atebion iddynt. 

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.