Nod y cwmni o Gaerdydd yw achub y blaned trwy ddatrysiadau ynni adnewyddadwy i ysgolion a busnesau.
Mae Ineco Energy, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn cyflenwi technolegau a datrysiadau effeithlonrwydd ynni i fusnesau ac ysgolion. Gydag ymrwymiad gweithredol i helpu’r amgylchedd o’n cwmpas, fe wnaethant elwa o gymorth cynaliadwyedd Busnes Cymru a rhoi cyfres o fesurau ar waith i leihau a gwella eu heffaith amgylcheddol:
- gweithdy AD a Chynaliadwyedd
- wedi arwyddo Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru
- ymrwymiad gweithredol i weithgareddau effeithlonrwydd adnoddau o fewn y busnes
Cyflwyniad i fusnes
Crëwyd Ineco Energy yng Nghaerdydd gan Tony Rayer, Adam Peat ac Angus Rose gyda’r syniad o helpu’r blaned, arbed arian i’w cleientiaid ac addysgu’r genhedlaeth nesaf. Mae’r busnes yn darparu technolegau adnewyddadwy ac ynni effeithlon, wedi’u gyrru gan yr awydd i leihau eu heffaith amgylcheddol a meithrin arfer o gynaliadwyedd.
“Gan bod ein cwsmeriaid yn gallu lleihau eu halldaliadau o ganlyniad i’n hymgysylltiad, mae’r cyfan yn ychwanegu at gam economaidd ac ecolegol gadarn i ysgolion a busnesau.”
Beth oeddech yn ceisio ei gyflawni yn eich busnes?
Crëwyd Ineco Energy yn sgil awydd y 3 Cyfarwyddwr cytûn i leihau defnydd ynni ein cleientiaid, addysgu cenedlaethau’r dyfodol a helpu i achub y blaned.
Gan edrych ar y farchnad gyfan, fe benderfynon ni ymgymryd â thechnoleg newydd o’n datrysiad goleuadau LED a ailosodir cychwynnol (a ariennir yn llawn ar gyfer sefydliadau sector-cyhoeddus) yn 2016/17, gan ychwanegu Panel Solar Ffotofoltäig yn 2018/19, storio batris yn 2019/20, a thechnolegau eraill wrth iddynt ddod yn fwy hygyrch.
Pa heriau a wynebwyd gennych?
- diffyg dealltwriaeth o’r modd yr ydym yn wahanol i bobl eraill yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ymgynghorwyr Mecanyddol a Pheirianyddol (M&E) a chontractwyr trydanol, trwy gynnig ‘datrysiad un contractwr’ yn ein maes
- diffyg dyhead i newid gan fod pobl bob amser yn hapus lle maen nhw heddiw, nes iddyn nhw ddeall y gellir cyflawni pethau gwell
Cymorth Busnes Cymru
Cyflwynwyd Tony a’r tîm i wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i ddechrau mewn gweithdy Hanfodion Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth Cymru wedi’i ariannu’n llawn. Buont yn gweithio gydag ymgynghorydd Cynaliadwyedd, Paul Carroll, gan arwyddo Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru, a nodi 4 gweithgaredd blaenoriaeth allweddol sy’n bwysig i’r busnes:
- gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol
- cynnyrch a gwasanaethau
- pecynnu priodol
- mesur effeithiau
Deilliannau
Roedd gweithdy Busnes Cymru a chyngor Paul cyn proses dendro Trafnidiaeth Cymru yn ddefnyddiol dros ben i ni.
Wedi nodi’r meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt, yn seiliedig ar yr Adduned Twf Gwyrdd, roeddem yn gallu:
- gwneud partneriaethau strategol gyda sawl gweithgynhyrchydd yn y DU sy’n cyfyngu ar ein costau cludo a’r costau carbon cysylltiedig, helpodd hyn hefyd i leihau ein gwastraff gan bod y gweithgynhyrchwyr yn delio gyda’r ailgylchu eu hunain o dan Gyfarwyddeb WEEE (cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff)
- derbyn hyfforddiant gan ein partneriaid solar
- gweithio gyda Western Power i ddarllen ac adrodd yn ddigidol ar ddata ffynhonnell agored a fydd o fudd i’n rhanddeiliaid ac y gellid ei ddefnyddio mewn addysg hefyd
- ymgysylltu â Tesla ynghylch darparu datrysiad storio batris er mwyn caniatáu i’n cleientiaid ddefnyddio pwer gweddilliol yn ystod y dydd dros nos
- ystyried cyfleoedd i leihau’r defnydd o geir ar gyfer teithiau byr
Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
Mae’r cwmni yn tyfu: o 3 o bobl yn 2016, mae gennym 6 o weithwyr erbyn hyn ac yn gobeithio ehangu ymhellach. Rydym eisiau cael ein parchu am ein dewisiadau o weithio tuag at effeithlonrwydd ynni yn hytrach na ‘dim ond gwneud joben’ am ein bod yn gallu. Rydym yn cydbwyso’r hyn sy’n bosibl gyda’r hyn sy’n ofynnol, ac fe fyddwn yn onest gyda’r cleient lle credwn nad yw’r cyfle yn addas ar gyfer y dechnoleg a gynigir gennym.
Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.