BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Millrace Marketing

Millrace

Asiantaeth marchnata creadigol yw Millrace sydd wedi’i chreu ar sail awydd cryf i gynhyrchu marchnata ystyrlon. Wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, mae’r tîm o saith yn gweithio’n agos o fewn y llywodraeth a’r sectorau elusennol, gan helpu i gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu pwrpasol. Mae’r cwmni’n hyrwyddo gwaith ar brosiectau sydd yn y pen draw yn helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl neu i’r blaned ac mae wedi cefnogi negeseuon cyfathrebu ynghylch twf busnes yng Nghymru, cynaliadwyedd a’r argyfwng tai.

Yr hyn sy’n gwneud Millrace yn wahanol yw ei fod wedi dewis mynd o’i chwmpas hi’n wahanol, gan ddewis nid yn unig i gefnogi prosiectau cyfathrebu arwyddocaol, ond hefyd i addasu ei fodel busnes a’i arferion ei hun i fod yn gyflogwr Gwaith Teg. Lansiodd sylfaenydd Millrace, Laura Aherne, yr asiantaeth gyda strwythur llinell isaf driphlyg, gan sicrhau bod yr asiantaeth yn atebol i’r bobl, i’r blaned ac i’r bunt.

Gwobrwyo teg

Dewisodd Millrace fod yn gyflogwr Cyflog Byw gwirioneddol o’r eiliad y cafodd ei lansio yn 2019. Fel busnes newydd, roedd hyn yn risg ariannol, ond roedd Laura, y cyfarwyddwr, am sicrhau bod brand Millrace yn wahanol i asiantaethau marchnata eraill ac yn denu cyflogeion a oedd yn awyddus i ddysgu, tyfu ac aros.

Yn ystod ei chyfnod yn gweithio yn y sector roedd wedi gweld interniaethau’n cael eu cynnig heb dâl, gan ddisgwyl i feddyliau creadigol weithio am ddim yn enw profiad.

Esboniodd Laura:

Roedd dod yn gyflogwr Cyflog Byw yn bwysig iawn i fi ac esblygiad Millrace. Er mai dim ond dau gyflogai oedd gynnon ni ar y pryd, ro’n i am iddyn nhw wybod beth oedd fy mwriadau drwy weithredu a theimlo’n ddiogel yn eu swyddi wrth i’r busnes dyfu.

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth

Cynhelir sgyrsiau un-i-un bob yn ail fis yn Millrace. Mae pob aelod o’r tîm yn cael diwrnod ac amser penodol i eistedd gyda Laura i drafod ei lwyth gwaith, unrhyw anghenion hyfforddi, cyfeiriad ei swydd, neu unrhyw beth arall y mae’n gyfforddus i’w rannu.

Meddai Laura:

Mae ein hwythnos waith wedi’i rhannu rhwng gofod swyddfa prysur a gweithio o bell, felly mae’r sesiynau un-i un hyn yn galluogi fy nhîm i drafod unrhyw beth o’u dewis, yn breifat. Dwi wedi cael trafodaethau gwych gydag aelodau’r tîm am brosiectau maen nhw’n falch ohonyn nhw neu am sut maen nhw am i’w swydd ddatblygu. Dwi’n dysgu llawer am anghenion fy nhîm yn y sesiynau hyn.

Mae Millrace hefyd yn aelod o gynllun Cyflogwr Chwarae Teg ac wedi mabwysiadu dull drws agored fel y gall cyflogeion siarad â thimau uwch arweinwyr unrhyw bryd, heb orfod aros am sesiynau un-i-un mwy strwythuredig bob yn ail fis.

Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen

Er yn dîm bychan, mae 50% o’r cyflogeion wedi symud ymlaen i swyddi uwch o fewn 18 mis o ddechrau yn Millrace. Mae tîm llai wedi galluogi Laura i hyfforddi a meithrin ei chyflogeion yn anffurfiol drwy brosiectau y mae hi’n dal i fod yn rhan fawr ohonynt. O dan eu statws B-Corp, mae hyfforddiant ffurfiol yn allweddol sy’n gofyn am bolisïau a diweddariadau, gan olygu bod Millrace yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd twf a hyfforddiant a fydd yn helpu i ddatblygu cyflogeion. Dros y 12 mis diwethaf, mae cyflogeion Millrace wedi cwblhau pob math o hyfforddiant ffurfiol yn unol â’u swyddi, yn amrywio o gyrsiau prawfddarllen ardystiedig i hyfforddiant ar ddatganiadau i’r wasg gyda gweithiwr CIPR proffesiynol.

Mae cyflogeion sy’n rhan o’r gwaith o ddylunio a chynhyrchu fideo hefyd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant mwy anffurfiol, sy’n addas i’w hanghenion o fewn tirwedd greadigol gyfnewidiol, er enghraifft, gyda’r platfform tiwtorial ar-lein Skillshare. Meddai Laura:

Hyfforddiant yw un o’r meysydd sy’n cael eu trafod yn y sesiynau un-i-un a chyda digonedd o ffyrdd i ddysgu, mae yna ddull amrywiol a hygyrch o sicrhau bod y tîm yn gwneud cynnydd ac yn tyfu drwy’r amser.

Sicrwydd a hyblygrwydd 

Mae gan dîm Millrace gontractau parhaol ac mae’r rhain yn nodi’n glir eu lleoliad gwaith, eu horiau gwaith a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw fel cyflogeion.

I gefnogi eu hanghenion gwaith unigol, ac elfennau teithio eu polisi cynaliadwyedd, mae cyflogeion yn gweithio model hybrid penodol. Defnyddir y dyddiau yn y swyddfa gyda’i gilydd i gydweithio a chyfarfod, tra bod y dyddiau o weithio gartref yn golygu nad oes rhaid teithio a bod yna amser tawel i ysgrifennu, creu a chynhyrchu. Mae Millrace yn defnyddio rhaglen reoli taflen amser i fonitro amser a dreulir ar brosiectau ac i sicrhau bod y tîm yn neilltuo’r nifer priodol o oriau i brosiectau gan nad yw gweithio y tu allan i oriau’n cael ei annog o gwbl.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol 

Mae gan Millrace nifer o bolisïau ynghylch cynhwysiant, amrywiaeth, cydraddoldeb a hyfforddiant. Yn ogystal, mae Millrace wedi ymrwymo i achrediad Chwarae Teg y corff Chware Teg ac yn meddu ar achrediad Ymrwymedig i fod yn Hyderus o ran Anabledd.

Dywedodd Laura:

Rwy’n teimlo bod gwaith cynhwysol yn ymwneud â’r diwylliant rydych chi’n ei greu. Er bod gennym ni bolisïau ar waith ac achrediadau mwy ffurfiol, mae’n ymwneud â sut rydych chi’n gwneud i bobl deimlo, nid beth sy’n cael ei ysgrifennu mewn dogfennau. Rwy’n credu bod gennym ni ddiwylliant hygyrch lle mae pawb yn teimlo y gallan nhw ddod â’u hunain yn gyfan i’r gwaith.

Parchu hawliau cyfreithiol

Yn dilyn misoedd o asesiadau, mae Millrace wedi dod yn sefydliad B-Corp sydd â ffocws cryf ar hawliau cyfreithiol. O gadwyni cyflenwi drwodd i ddiweddariad cyfreithiol ar eu Herthyglau Cymdeithasu, mae’r cwmni wedi ymrwymo i barchu hawliau cyfreithiol cyflogeion a hawliau cyflenwyr a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â’r cwmni. Yn ogystal, mae gan y cwmni 27 polisi yn amrywio o weithio hyblyg i wrth-gaethwasiaeth, gan sicrhau hawliau cyfreithiol a llesiant cyflogeion a chadwyni cyflenwi ymhellach.

Manteision bod yn gyflogwr gwaith teg

Un o fanteision pendant mabwysiadu egwyddorion Gwaith Teg ar gyfer Millrace yw gallu cadw cyflogeion. Mae dau gyflogai cyntaf Millrace yn eu pedwaredd flwyddyn o gyflogaeth sy’n profi fod gan y cwmni drosiant staff sydd o dan gyfradd trosiant uchel y sector. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r cyflogeion hyn wedi tyfu eu sylfaen sgiliau a’u profiad, ac wedi cael eu dyrchafu i swyddi uwch o ganlyniad. Mae’r holl gyflogeion eraill sydd wedi eu recriwtio gan Millrace ac sydd wedi pasio’r cyfnod prawf yn llwyddiannus wedi parhau gyda’r sefydliad hefyd. Esboniodd Laura:

Hoffwn gredu bod ein cyfradd cadw cyflogeion yn uchel iawn am fod gan Millrace ddiwylliant agored a gonest sy’n cynnig cyfle i bobl wneud cynnydd a dysgu. Gan ganolbwyntio ar y llinell isaf, mae cael cyflogeion sy’n ffynnu yn gwneud synnwyr ariannol i ni gan nad oes rhaid i ni recriwtio a hyfforddi, ac mae ein cleientiaid yn aros gyda ni gan nad oes rhaid iddyn nhw ddelio â newid sy’n tarfu ar waith.

Edrych tua'r dyfodol

Mae Millrace yn parhau i dyfu ar gyfradd organig ac mae’n dewis darparu cymorth lle mae’n cyfrif, sef yn y meysydd cyfathrebu a marchnata yn bennaf. Bydd yn parhau i gynnig cyfleoedd i gyflogeion dyfu gyda’r cwmni drwy gyfleoedd hyfforddiant a datblygiadau gyrfa.

Mae Millrace newydd lansio rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, The Green House, sy’n ymdrechu i sicrhau bod eu “pobl a’r blaned” yn fwy atebol. Bydd cyflogeion yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau a’r cynlluniau hyn gyda chleientiaid.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.