BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

MJ Lights

MJ Lights

Cwmni digwyddiadau yng Nghasnewydd yn penderfynu arallgyfeirio yn ystod y pandemig er mwyn bod o gymorth i amddiffyn busnesau eraill rhag y Coronafeirws.

Cyflwyniad i'r busnes

Mae MJ Lights yn darparu gwasanaethau dylunio digwyddiadau a chynhyrchu technegol arloesol ledled y DU ac Ewrop.

Mae'r busnes yn arbenigo mewn darparu ystod eang o offer digwyddiadau technegol gan gynnwys goleuadau, offer rigio, pŵer dros dro, offer llwyfannu, arddangosfeydd fideo LED, PA a systemau clywedol-weledol. Gan weithio o'u gweithdy ar y safle yng Nghasnewydd, mae cangen greadigol y busnes hefyd yn cynnig gwasanaethau cynhyrchu, prosiectau creadigol a chynhyrchion pwrpasol a wneir gan ddefnyddio'u peiriannau CNC eu hunain.

Pa heriau a chyfleoedd ddaeth i'ch rhan yn ystod argyfwng y Coronafeirws?

Ar y dechrau, effeithiodd yr argyfwng arnom yn yr un ffordd ag yr effeithiodd ar lawer o'r diwydiant lletygarwch. Collasom ein holl waith o ddechrau mis Mawrth hyd at fis Medi ar y cynharaf. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi cael swyddi ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn cael eu canslo. Erbyn diwedd mis Mawrth, roeddem wedi penderfynu derbyn na fyddem yn cael unrhyw waith am weddill y flwyddyn a chynllunio ar sail hynny, gan obeithio mai dyma fyddai'r senario gwaethaf, ond un y gallai'r busnes oroesi'n llwyddiannus.

Treuliasom yr ychydig wythnosau cyntaf yn glanhau ac yn atgyweirio ein holl offer a safleoedd. Erbyn diwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai, penderfynasom fod angen prosiect bach arnom i'n cadw'n brysur, felly penderfynasom ddefnyddio ein gweithdy a'r offer parod oedd gennym er mwyn helpu busnesau eraill i gadw'n ddiogel rhag Covid-19. Felly, bu i ni ddechrau defnyddio ein torrwr laser ar y safle a'n peiriant CNC er mwyn creu sgriniau amddiffynnol.

Sut mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi eich helpu?

Mae Busnes Cymru wedi ein helpu i ddeall sut y gallwn farchnata a hysbysebu ein cynnyrch. Dyma faes nad oeddem erioed wedi canolbwyntio arno fel busnes o'r blaen, felly roeddem yn brin o'r sgiliau. Roedd ein cynghorydd, Miranda Bishop, yn hynod gynorthwyol a rhoddodd sawl cyngor ac arweiniad at lwybrau na fyddem erioed wedi meddwl amdanynt. 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i berchnogion busnes eraill sy'n cael trafferthion ymdopi â'r argyfwng?

Ein cyngor i fusnesau a pherchnogion busnesau eraill fyddai peidio â chynhyrfu. Bydd trafferthion o'n blaenau. Fodd bynnag, bydd llawer o gyfleoedd, hefyd- dim ond i bobl ddeall a derbyn na fyddant yn gallu agor a mynd yn syth yn ôl i farchnata yn yr un ffordd ag yr oeddent cyn effaith y pandemig. Os ydynt yn ystyried hyn, dylent allu llwyddo yn y sefyllfa bresennol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.