BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mrs. Buckét

Mrs Bucket

Sefydlwyd Mrs. Buckét gan Rachael Flanagan 18 mlynedd yn ôl fel busnes glanhau domestig. Fodd bynnag, ers 2019, mae’r busnes yn canolbwyntio’n llwyr ar lanhau masnachol gyda chleientiaid adnabyddus fel GE Wales Aviation, Canolfan Dechnoleg Sony UK a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r cwmni wedi tyfu o’r 20 cyflogai gwreiddiol i 350 o gyflogeion erbyn heddiw ac yn cwmpasu’r ardal o orllewin Cymru i Fryste. Gwelodd Mrs. Buckét dwf sylweddol o ganlyniad i’r pandemig pan fu’r busnes yn allweddol i alluogi llawer o sectorau eraill i allu dychwelyd i’r gweithle.

Daeth Kate Ablett yn Bennaeth Pobl yn Mrs. Buckét ym mis Ionawr 2022, penodiad yr oedd y cwmni’n teimlo a oedd wedi dod yn rhan hanfodol o’r tîm arwain. Mae Kate yn esbonio:

Roedd Rachael, fel Prif Swyddog Gweithredol, yn deall bod angen iddi ddatblygu tîm gweithredol i’n galluogi ni i reoli’r busnes yn effeithiol, ac roedd hyn hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar gael Mrs. Buckét i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Gwobrwyo teg

Ers 2022, mae holl gyflogeion Mrs. Buckét wedi derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol. Wnaeth hyn ddim digwydd dros nos.

Fe gymerodd hi nifer o flynyddoedd i sicrhau bod holl gontractau’r cyflogeion yn gyson.

Fodd bynnag, roedd hwn yn gam pwysig i sicrhau bod y ffordd yr oedd staff yn cael eu trin yn cyd-fynd â gwerthoedd a chenhadaeth y cwmni.

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth

Mae Mrs. Buckét yn defnyddio arolygon chwe-misol i ddeall safbwyntiau ei gyflogeion, gan hwyluso llais uniongyrchol y cyflogai. Roedd yr arolwg diweddaraf yn canolbwyntio ar wobrwyo ac, yn arbennig, beth roedd pobl am ei weld gan y cwmni. Roedd hwn yn ddarn allweddol o waith a oedd yn rhan o gynyddu’r cynnig i gyflogeion, a oedd yn cynnwys buddion cyflogeion.

Fodd bynnag, gyda gweithlu amrywiol mae’n hanfodol deall beth sy’n bwysig i bob cyflogai. Kate sy’n esbonio:

Yn hytrach na dweud, ‘O, rydyn ni am gyflwyno’r budd hwn,’ roedden ni eisiau gwybod beth oedd blaenoriaethau pobl ac yna rhoi camau ar waith a oedd yn adlewyrchu’r holl genedlaethau a’r amrywiaeth yn ein timau.

Mae llais uniongyrchol y cyflogai hefyd yn cael ei glywed drwy grwpiau gwrando gweithredol. Mae’r uwch dîm arwain yn gwahodd grwpiau o gyflogeion i brif swyddfa Mrs. Buckét i drafod y pethau sydd bwysicaf iddynt.

Mae Kate yn esbonio:

Credwn ei bod hi’n bwysig rhoi llais uniongyrchol i gyflogeion o bob lefel yn y cwmni, ac mae’r uwch dîm arwain a’r cyflogeion yn teimlo bod yr ymarfer yn gynhyrchiol dros ben.

Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen

Fel cwmni, mae Mrs. Buckét am sicrhau ei fod yn cynnig cyfleoedd cyson i gyflogeion ddatblygu eu hunain yn broffesiynol. O gymwysterau NVQ i ymrestru cyflogeion ar gyrsiau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae atgyfnerthu’r cynnig hyfforddiant yn fater y mae Kate wedi bod yn canolbwyntio arno dros y flwyddyn ddiwethaf:

Dwi wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gennym ni gyfleoedd datblygu ar gael i bob lefel yn y busnes. Rydyn ni wedi gweld bod hybu twf proffesiynol cyflogeion yn y swydd yn golygu eu bod yn cael mwy o foddhad yn y swydd ac yn fwy tebygol o aros yn y cwmni.

Mae Mrs. Buckét hefyd yn falch o gael Academi Lanhau fewnol, sef yr hyfforddiant technegol sy’n cael ei ddarparu i dechnegwyr glanhau pan fyddan nhw’n ymuno. Mae lefel ychwanegol o hyfforddiant wedi’i ychwanegu at y rhaglen yn ddiweddar o’r enw y Pasbort i Lwyddiant. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i wneud mwy nag addysgu sgiliau technegol, mae hefyd yn canolbwyntio ar sgiliau pobl fel arweinyddiaeth a rheolaeth. Hefyd, mae’r cwmni’n edrych ar ddefnyddio’r rhaglen i rymuso cyflogeion, datblygu eu gwydnwch ac annog datblygiad proffesiynol.

Sicrwydd a hyblygrwydd

Mae Mrs. Buckét yn cynnig contractau parhaol i gyflogeion yn bennaf gydag amrywiaeth o opsiynau mewn perthynas ag oriau.

Mae gallu darparu amrywiaeth o oriau contract yn ffactor apelgar i’r rhai sy’n chwilio am waith hyblyg, rhywbeth y mae Mrs. Buckét yn awyddus i’w hyrwyddo. Yn wir, dydy’r dull hyblyg hwn ddim yn rhywbeth newydd i Mrs. Buckét. Mae Kate yn esbonio:

Rydyn ni wedi bod yn gwneud y pethau hyn yn naturiol am flynyddoedd lawer gan fod hynny wedi ein galluogi ni i wasanaethu’r cwsmer a chyflawni’n contractau’n effeithiol, gan roi’r bonws ychwanegol o hyblygrwydd gwaith i gyflogeion.

Er bod contractau dim oriau wedi bod yn bwnc dadleuol yn y blynyddoedd diwethaf, mae Kate yn esbonio bod rhai staff yn gofyn amdanyn nhw.

Yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn cyflogi ar sail contractau dim oriau. Fodd bynnag, mae yna rai yn ein busnes ar gontractau dim oriau am eu bod nhw wedi gofyn am hynny’n benodol, oherwydd nad ydyn nhw’n byw yn yr ardal yn barhaol neu eu bod am gael gwaith tymhorol yn unig.

Parchu hawliau cyfreithiol

Mae Mrs. Buckét yn gydwybodol iawn ynglŷn â’i effaith amgylcheddol. Boed yn sicrhau bod ei gadwyn cyflenwi’n defnyddio adnoddau moesegol gywir neu’n sicrhau nad yw ei ddarparwr cemegolion newydd yn wenwynig, mae’r tîm yn awyddus i wneud mwy drwy’r amser. I gyflawni hyn, mae Mrs. Buckét yn gweithio gyda BioHygiene, brand blaenllaw ar gyfer atebion glanhau biolegol. Dydy eu cynhyrchion glanhau ddim yn niweidio’r amgylchedd nac iechyd pobl oherwydd dydyn nhw ddim yn cynnwys cynhwysion gwenwynig, maen nhw’n garbon niwtral ac yn helpu i atal llygredd plastig.

Gyda chymaint o gyflogeion, mae’r cwmni’n falch o ddweud eu bod yn cydymffurfio â’i holl rwymedigaethau statudol i’w gyflogeion.

Rydyn ni’n gwneud popeth posibl o safbwynt cydymffurfio. Mae yna brosesau cadarn ar waith o safbwynt cynefino a phobl i sicrhau ein bod ni ar flaen y gad yn ein diwydiant o ran cael ein gweld fel cyflogwr Gwaith Teg.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Mae Mrs. Buckét yn gyflogwr Chwarae Teg balch, sy’n golygu bod y cwmni bob amser yn chwilio am ffyrdd o fod mor gynhwysol â phosibl. Mae’n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn gweithio i gyflawni lefel nesaf yr achrediad hwn.

Mae timau’n cael eu hyfforddi ar arferion recriwtio cynhwysol ac mae polisi recriwtio’r cwmni wedi’i adolygu i adlewyrchu hyn. Mae recriwtio’n cael ei wneud yn ddigidol dros y ffôn ac ar fideo, ond gellir cyfweld wyneb yn wyneb pan fo angen. I sicrhau recriwtio cynhwysol, mae swyddi’n cael eu hysbysebu ar draws platfformau sy’n ystyriol o anabledd yn ogystal ag ar wefan Mrs. Buckét ac ar wefannau recriwtio fel Indeed.

Mae cael gwybodaeth am amrywiaeth gan y gweithlu wedi bod yn anodd, ond rhoddodd Kate flaenoriaeth i hyn pan ddechreuodd gyda Mrs. Buckét:

Rydyn ni wrthi’n sefydlu system ddadansoddi a fydd yn rhoi data i ni am y rhywedd y mae pobl yn uniaethu ag ef, anableddau, hil, crefydd, lle mae pobl yn byw a pha mor bell maen nhw’n teithio. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth dreiddgar i ni fel cwmni, yn enwedig er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r amgylchedd gwaith mwyaf cynhwysol â phosibl i’n cyflogeion.

Yn 2022, bu’r cwmni’n gweithio ar brosiect i ddeall proffiliau ei gyflogeion. Pwrpas hyn oedd darganfod pam mae cyflogeion yn dewis gweithio i Mrs. Buckét. Mae Kate yn ymhelaethu:

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cyflogi mwy o fenywod na dynion sydd ddim yn syndod ar sail o ble rydyn ni wedi dod a’r ddelwedd draddodiadol o rywun sy’n glanhau. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld ein bod ni’n cyflogi mwy o ddynion yn llawn amser erbyn hyn pan fyddwn ni’n ymgymryd â chontractau diwydiannol mawr.

Yn ôl y prosiect hwn hefyd, gwelwyd bod proffil oedran eu gweithlu dros 45 oed yn bennaf. O ganlyniad, mae’r cwmni wedi cynnal gwaith ymchwil, drwy adolygiad busnes cynhwysol o oedran ar y cyd â Busnes yn y Gymuned, i geisio deall sut y gall barhau i ddenu ystod oedran eang o bobl drwy sicrhau ei fod yn weithle cynhwysol i bob cenhedlaeth..

Mae cofleidio amrywiaeth ethnig cyflogeion Mrs. Buckét wedi bod yn hanfodol hefyd i sicrhau bod pawb yn elwa ar amgylchedd gwaith cynhwysol. Pwyleg yw prif iaith llawer o’r gweithlu, felly mae’r holl ohebiaeth berthnasol yn cael ei chyfathrebu yn Saesneg a Phwyleg er mwyn sicrhau bod y gweithlu cyfan yn teimlo’n rhan o’r tîm ac nad oes unrhyw wybodaeth hanfodol yn anhygyrch i gyflogeion yn sgil rhwystr ieithyddol.

Manteision bod yn gyflogwr gwaith teg

Mae cyfradd cadw cwsmeriaid Mrs. Buckét yn 93%, cyflawniad anhygoel i’r cwmni. Ychwanega Kate:

Rydyn ni’n credu bod yna gydberthynas go iawn rhwng hyn â chael tîm hapus. O safbwynt talent, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n cystadlu mewn marchnad gystadleuol. Felly mae sut rydyn ni’n cael ein portreadu’n fewnol ac yn allanol drwy’r mentrau Gwaith Teg, fel annog datblygiad staff, meithrin gyrfaoedd, a thalu cyflog teg yn arbennig o bwysig i ni wrth i ni recriwtio a chadw staff.

Edrych tua'r dyfodol 

Ar ôl dyblu ei drosiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bod ar y llwybr cywir i gyrraedd dros £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf, mae Mrs. Buckét yn gwybod mai ei bobl yw ei gaffaeliad mwyaf.

Mae Kate yn esbonio:

Rydyn ni am drin pobl yn deg, rydyn ni am iddyn nhw gael eu gwobrwyo’n ystyrlon am waith ystyrlon, sef y peth iawn i’w wneud yn y pen draw.

Mae’r awydd i barhau i ddatblygu’r cynnig i gyflogeion hefyd yn ffocws ar gyfer y dyfodol i’r cwmni. Mae’n chwilio am ffyrdd i ddarparu profiad gwaith sy’n rhoi mwy o foddhad ac yn awyddu i symud i ffwrdd o’r stereoteipiau traddodiadol o ‘lanhau bwced a mop’. Mae Mrs. Buckét hefyd am ddefnyddio technolegau arloesol, sydd o fudd i rôl technegydd glanhau drwy ddatblygu sgiliau datblygedig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.