Gyda chefndir mewn celf a chynllunio, sefydlodd y Cyfarwyddwr Cwmni Poli Cárdenas gwmni Ridgebag yn 2018. Mae ganddo radd Meistr mewn Curaduriaeth a bu’n berchennog ei fusnes gwneud dodrefn ei hun cyn cychwyn i arwain ar Gynllunio a Chynhyrchu yn Ridgebag.
“Ganwyd Ridgebag o angen gwirioneddol yn y farchnad y gwnaethom ei ddarganfod fel perchnogion cŵn - bag sy’n cynnwys pob dim sy’n angenrheidiol ar gyfer mynd â chŵn am dro.
Rhyngom mae gennym dri chi: y ddau helgi Rhodesaidd Raffi a Layla, a Mina, ci Romanaidd a arferai fod ar y ffordd. Mewn gwirionedd, silwét o’n hawen, Raffi yw ein logo. Crëwyd Rigebags ar gyfer pobl sy’n caru eu cŵn, gan bobl sy’n caru eu cŵn.”
Yn ogystal â Poli, mae’r tîm yn cynnwys arbenigwr marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus, a chyfryngau cymdeithasol Llaima Mali Cárdenas a’r awdur hunangyflogedig Catrin Kean. Mae ei phrofiad o gerdded cŵn yn ei helpu i ddarparu cipolygon penodol i swyddi yn ei blogiau, sydd yn eu tro’n llywio cynlluniau Ridgebag.
Caiff pob bag ei wneud â llaw mewn sympiau a chwmni gwasanaethau gwnïo yn y Bari sy’n eu gwnïo at ei gilydd.
Beth ddaru nhw
“Gwnaethom waith ymchwil manwl, yn defnyddio ein profiad ein hunain a’n ffrindiau sy’n berchen cŵn, llawer ohonynt yn bobl broffesiynol a chanddynt gŵn. Gwnaethom gynllunio ac adeiladu prototeipiau cyn eu treialu gyda cherddwyr cŵn proffesiynol am dros flwyddyn, gan dderbyn adborth cyson ac addasu’r bagiau. Penderfynasom ar dri chynllun terfynol sydd bellach ar werth. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynlluniau pellach i ddiwallu anghenion amrywiol a chwaeth wahanol.
Pan oedden ni’n barod i fynd i gynhyrchu, gwnaethom lunio ein cynllun busnes a gwnaethom gais am gyllid gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes. Mae ein holl gynghorwyr wedi rhoi cyngor a chipolwg amhrisiadwy i ni. Gwnaethant ein helpu i fireinio ein cynllun, a arweiniodd at gymeradwyo’r cyllid.
Ar hyn o bryd, rydym wedi bodoli'n bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae cwsmeriaid yn cysylltu’n uniongyrchol â ni i brynu bagiau. Fodd bynnag, yn ddiweddar rydym wedi cynnal ein sesiwn tynnu lluniau proffesiynol gyntaf ac rydym newydd lansio’n gwefan ddiweddaraf a siop ar-lein.” - Poli Cárdenas
Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol
“Camgymeriad cychwynnol oedd peidio â chynnal ymchwil pellach ar decstilau. Cynhyrchodd hyn gostau diangen ar ddeunyddiau a oedd, maes o law yn anaddas i’r ansawdd yr oedden ni’n ymgyrraedd ato.
Wrth edrych yn ôl, dylem fod wedi cysylltu â ffynhonnell gyllido llawer yng nghynt nag y gwnaethom. Byddai hynny wedi ein helpu ni i farchnata’r bagiau yn gynharach. Roedd yna gyfnod pan oedd y prototeipiau’n barod ond nid oedd modd eu cynhyrchu oherwydd diffyg cyllid.”
Eu adeg mwyaf balch mewn busnes
“Ein hadeg fwyaf balch cyn belled yw’r bagiau eu hunain. Rwy’n gynllunydd medrus - ni wyddwn sut i wnïo ac nid oeddwn yn berchen ar beiriant gwnïo; roedd rhaid i mi hyfforddi fy hun o’r cychwyn er mwyn gwnïo’r bagiau. Pan ddaru ni gyflwyno’r prototeipiau oedd ar waith i wnïwyr proffesiynol, roeddent yn llawn edmygedd o ansawdd a manylder y bagiau. Roedd honno’n adeg wych, llawn balchder a rhoddodd hwb i’n hyder.”
Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu
“Mae enwau Cymraeg ar bob bag: Awen, Awen Aer, Dinas, ac enw ein cynlluniau newydd fydd Awen Ddu ac Eryri. Hefyd, bydd gennym fersiwn Gymraeg o’n gwefan i wasanaethu cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg. Agwedd bwysig o’n strategaeth farchnata yw hyrwyddo’r ethos Gwnaed yng Nghymru. Gwelwn fod hyn yn cydweddu â’n delwedd brand ac ar ymarferoldeb y bagiau - cynlluniwyd Ridgebags gyda golwg ar anialdir Cymru ac amlygir hyn ar ein cyfri Instagram. Mae ein Cynhyrchydd Cynnwys, Llaima yn siaradwr Cymraeg ac yn aml, byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi a Diwrnod Santes Dwynwen ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chael negeseuon tebyg i Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, gan amlaf mewn llawer o ieithoedd eraill hefyd!”
Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru
Roedd Ridgebag angen cymorth gyda phrisio, rhagolygon llif arian, a chynllunio busnes. Felly, gwnaethon nhw gysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Aeth Poli i weithdy ‘Cychwyn a Rhedeg Busnes - Rhoi Cynnig Arni’ ac yna derbyniodd gymorth cynghori gan Carla Reynolds, a helpodd gyda phob problem ac ymholiad cychwyn busnes, gan gynnwys marchnata a rheoli’r galw.
Llwyddodd Ridgebag i gael £7,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, a lansiodd yn llwyddiannus yn Nhachwedd 2018.
Hefyd, ymrwymodd Ridgebag i Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru ac i weithredu ar wella eu perfformiad cynaliadwyedd yn y ffyrdd canlynol:
- cyflwyno pecynnu bio
- gwella ac edrych ar ôl iechyd a lles staff
- canolbwyntio ar ansawdd y cynnyrch er mwyn sicrhau ei fod yn para’n hir
Bellach, mae Poli’n gweithio gyda Miranda Bishop, Cynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru sy’n helpu’r busnes â’i strategaeth twf ac ehangu.
Dywedodd Poli: “Yn dilyn y cyswllt cychwynnol gyda chynghorwr o Busnes mewn Ffocws, aethom i weithdy ‘Cychwyn a Rhedeg Busnes - Rhoi Cynnig Arni’. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’n cynghorwyr Busnes Cymru, Carla Reynolds a Miranda Bishop. Bu’r ddwy’n ffynhonnell werthfawr o ysbrydoliaeth ac anogaeth, yn ogystal â darparu arweinwyr pwysig i’n helpu ar ein ffordd i ddatblygu’n gwmni hyderus a llwyddiannus.”
Cyngor Dda
Dyma gynghorion doeth Ridgebag i’r sawl sy’n bwriadu cychwyn neu dyfu eu busnes:
- gwnewch ymchwil manwl, nid yn unig ymchwil i’r farchnad ond pob agwedd arall ar y busnes: cyflenwyr,deunyddiau addas, cyfleusterau cynhyrchu
- sicrhewch gyllid cyn gynted â phosibl
- does dim gwahaniaeth pa mor hir a gymer hi i gyrraedd lle carech fod â’ch busnes, y peth pwysig yw ei gyflawni’n dda a phwyllo rhag i chi farchnata cynhyrchion sydd heb eu treialu neu eu datblygu’n llawn.
- canolbwyntiwch ar ansawdd, yn yr economi fyd-eang yma, mae bron yn amhosibl cystadlu ar faint
- byddwch yn falch o’ch cartref a dangoswch ef i’r byd, mae gwybod lle mae cwmni wedi’i leoli yn ychwanegu at gymeriad cyffredinol y brand, yn ei wneud yn llai anhysbys, ac yn ychwanegu elfen ddynol, mae llawer o’n brandiau sy’n cael eu hedmygu fwyaf yn cynnwys eu lleoliad yn eu marchnata, boed yn bentref yn y Ffindir, dinas fawr yn yr Almaen neu dref fechan yng Nghymru, mae pobl yn chwilfrydig am eu lleoedd, felly defnyddiwch hynny