Dwy ffrind ysbrydoledig yn lansio'r siop pop-yp ddi-blastig gyntaf yng Nghasnewydd.
Cychwynnwyd Sero Waste Ltd gan Laura Parry and Liz Morgan, a dyma'r siop pop-yp ddi-blastig gyntaf yng Nghasnewydd. Gyda chymorth gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, mae'r ffrindiau entrepreneuraidd wedi llwyddo i ddewis y strwythur busnes cywir, ennill dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol cyn lansio'r busnes yn llwyddiannus yn haf 2020, ac ar hyn o bryd, maen nhw yn y broses o drafod eiddo parhaol:
- dechrau llwyddiannus
- creu 2 swydd
- cyngor twf ar sefydlu busnes, eiddo, ariannu a marchnata
Cyflwyniad
Wrth sylweddoli ar yr heriau o geisio cychwyn a chynnal ffordd o fyw ddi-blastig yn y byd heddiw, lansiodd Laura Parry a Liz Morgan y fenter, Sero, fel rhan o'u gweledigaeth i leihau gwastraff plastig ac effaith defnyddwyr ar yr amgylchedd.
Sero yw'r siop ddiwastraff gyntaf yng Nghasnewydd, ac mae'n cynnig te, coffi, cynnyrch ystafell ymolchi a glanhau, yn ogystal ag eitemau tŷ, ac yn ceisio gwneud siopa di-blastig mor gyfleus a fforddiadwy â phosib
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?
Roedd gan y ddwy ohonom resymau personol i fod eisiau cychwyn ein busnes ein hun, ac wrth gyfuno’r rhesymau hynny, ffurfiwyd yr ethos ar gyfer Sero. Roedd cyfnod ar ffyrlo yn rhoi amser i ni feddwl am ddechrau busnes, a dyma’r cyfle gorau i ni. (Laura) Gadewais fy rôl yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol, lle roeddwn yn gweithio cyfochr â chymunedau lleol ac yn gweld y gwahaniaeth all busnesau megis Sero ei gael ar newid ymddygiadol ac addysgu'r cyhoedd am y materion ynghylch llygredd a'n cefnforoedd. Mae gan bob un ohonom y gallu i wneud gwahaniaeth enfawr, a dyna yr hoffem ei hyrwyddo yn yr ardal, sydd yn brin o adnoddau ar hyn o bryd.
Gadawodd Liz ei swydd mewn cwmni digwyddiadau annibynnol bach ym Mryste, lle'r oedd hi'n gweithio fel Ymgynghorydd Teithio a Digwyddiadau, er mwyn ymgymryd â her newydd gyda Sero, a defnyddio ei sgiliau mewn arwerthu a gwasanaeth cwsmer, yn ogystal â'i phrofiad o weithio'n agos gyda chyfarwyddwyr busnes annibynnol bach. Ni fyddai'r amseru wedi gallu bod yn well, nid yn unig o safbwynt byd-eang, ond ar lefel bersonol hefyd, o ran cymorth a'n cyfrifoldebau presennol.
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn dod â chymysgedd o wahanol gryfderau a sgiliau i'r busnes. Rydym yn cyfathrebu'n rheolaidd, ac yn ceisio canfod atebion i gwestiynau o wahanol safbwyntiau, gan ddeall mai ased sylweddol i'n tîm yw gallu cytuno i anghytuno, a pharhau i wneud penderfyniadau ymwybodol.
Pa heriau a wyneboch?
Mae nifer o bobl wedi ein galw ni'n 'ddewr' am gychwyn ein busnes ein hunain yn ystod cyfnod heriol ac ansicr, ond rydym yn credu bod cymaint o bethau positif i hyn. Yn fuan, sylweddolom fod llawer o'r cymorth a digwyddiadau wedi symud ar-lein, yn lle wyneb yn wyneb, oedd yn golygu eu bod nhw'n llawer fwy hygyrch. Roedd nifer o weminarau Busnes Cymru y bu i ni gymryd rhan ynddynt ar-lein wedi eu trefnu'n wreiddiol i gael eu cynnal yng Ngogledd Cymru, fyddai wedi bod yn daith llawer mwy heriol i ni.
Bu i ni wynebu heriau eraill mae'n debyg, yn yr ystyr fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn anodd (amhosib) yn ystod y cyfnod cloi, ac nid oedd hi'n bosib ymgysylltu â'r cyhoedd mewn unrhyw ffordd, dim ond ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd eto wedi troi yn rhywbeth positif, gan ein bod ni wedi llwyddo i ennill dilynwyr cyn lansio'r siop/cychwyn gwerthu.
Cymorth Busnes Cymru
Gwelodd Liz a Laura fwlch yn y farchnad ar gyfer siop ddiwastraff yng Nghasnewydd, ond roeddynt angen help gyda'r agweddau cyfreithiol o sefydlu busnes, ei strwythur, eu cynllun busnes a rhagolygon ariannol.
Ar ôl mynychu nifer o weminarau dechrau busnes Busnes Cymru, fe gysyllton nhw â Miranda Bishop, ymgynghorydd twf busnes, a ddarparodd gyngor ar eiddo, llif arian ac ariannu, yn ogystal â marchnata, yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cyfranogiad cymunedol, arallgyfeirio a CC.
Canlyniadau
- dechrau llwyddiannus
- creu 2 swydd
- cyngor twf ar sefydlu busnes, eiddo, ariannu a marchnata
Nid oeddem wedi sylwi faint o gymorth oedd ar gael i ni drwy Busnes Cymru. Mae'r gweminarau a digwyddiadau ganddynt wedi bod yn werthfawr, ac ni allem fod yn fwy hapus o gael Miranda yn ymgynghorydd busnes i ni. "Mae merched pwerus yn rhoi pŵer i ferched eraill", a dyna sut rydyn ni'n teimlo am Miranda. Mae ganddi gymaint o wybodaeth a phrofiad; mae'n agos atoch a diduedd, a dyna beth mae pawb ei angen gan ymgynghorydd busnes.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn gobeithio agor ein siop yn gorfforol cyn diwedd y flwyddyn, fydd yn cynnig cynnyrch cynaliadwy heb eu pecynnu i'r ardal leol. Mae ein cynlluniau tymor hir yn cynnwys gwneud Sero yn hwb cymunedol yng Nghasnewydd, ac yn fan lle all pobl ddod i ddysgu sut i ddod yn fwy cynaliadwy drwy weithdai gwyrdd, amnewid dillad a chaffis atgyweirio.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
Ffotograffiaeth © Georgina Bray