Hoffwn ddiolch i bawb yn Busnes Cymru am yr holl help a chymorth arbennig rwyf wedi’i gael o’r dechrau un, o gysylltu â chi ynghylch sefydlu fy musnes fy hun, hyd at y gefnogaeth wedyn. Fel person anabl, roeddwn wedi meddwl y byddai’n amhosibl cyflawni fy nyheadau, ond gyda help a dealltwriaeth holl staff Busnes Cymru, mae modd gwireddu breuddwydion. Hoffwn ddiolch i bawb yn bersonol am eu holl gymorth.
Pan oedd Nigel Christo-Jones, entrepreneur a pherchennog Taff's Equine Transport, gwasanaeth cludo ar gyfer anifeiliaid, a fydd hefyd yn dod yn theatr llawdriniaethau symudol ar hyn, eisiau cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl, cysylltodd â Busnes Cymru, a dechreuodd weithio ar gyflawni’r nod hwn.
Ar ôl siarad â’i Gynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl, cofrestrodd Nigel gyda’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, ac mae’n teilwra ei strategaeth recriwtio, gan gynnwys sut caiff hysbysiadau swyddi eu hysgrifennu, er mwyn cynnig yr un cyfleoedd ag y mae ef wedi'u cael ei hun i eraill.
Gyda chymorth Busnes Cymru, mae Nigel hefyd wedi rhoi Polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Pholisïau Amgylcheddol ar waith, er mwyn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod arferion cynaliadwyedd ac amrywiaeth yn gwella’r amgylchedd gwaith ar gyfer ei fusnes, staff a chwsmeriaid.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.