BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Urban Foundry

Urban Foundry

Fel asiantaeth adfywio greadigol sy’n creu syniadau gwych i newid y byd er gwell, mae Urban Foundry yn ceisio gwella bywydau pobl, creu lleoedd gwych a datblygu busnesau gyda phwrpas.

Mae gan y sylfaenydd a’r rheolwr-gyfarwyddwr, Dr. Ben Reynolds, dros 20 mlynedd o brofiad ym maes adfywio. Ei agwedd ganolog at y cwmni, sy’n cyfuno meddwl creadigol gyda dealltwriaeth entrepreneuraidd a damcaniaethol gref i ddatrys ystod o broblemau, yw’r hyn sy’n gwneud prosiectau i bara ac sy’n gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol.

Gwobrwyo teg

Mae Urban Foundry wedi bod o blaid talu’r Cyflog Byw gwirioneddol i’w cyflogeion ers amser maith. Mae talu pobl yn deg wedi bod yn un o’u hegwyddorion sylfaenol ers y dechrau. Ar ôl sicrhau achrediad swyddogol yn 2018, maen nhw’n ceisio cael cwmnïau bach eraill i ddilyn eu hesiampl ac ymuno â’r mudiad Cyflog Byw gwirioneddol.

Dywed Ben fod y Cyflog Byw “yn ein DNA” fel cwmni. Mae’n ychwanegu:

Dwi wastad wedi meddwl, os ydych chi’n llwyddo mewn busnes, y gallai rhywfaint o hynny fod oherwydd eich dyfeisgarwch chi, ond bod llawer ohono’n bendant oherwydd y bobl sy’n gweithio i chi, ac y dylid eu gwobrwyo’n deg am hynny. Dwi hefyd yn aelod o wahanol bartneriaethau a phaneli ariannu ac wedi bod yn gwthio i gael hyn fel maen prawf pasio/methu ar gyfer derbyn arian cyhoeddus – dwi’n falch iawn o weld bod hyn yn ymddangos ar ffurflenni cais yn awr.

Talodd y cwmni fonws costau byw hefyd i’r holl staff i helpu gyda’r cynnydd sydyn mewn costau byw yn ail hanner 2022. Mae’r holl gyflogau yn cyd-fynd â chwyddiant, nid dim ond y rhai ar y Cyflog Byw, a oedd yn golygu codiad cyflog o 10% i’r holl staff yn 2022. Mae’r holl gyflogeion yn cael prisiau gostyngol ar fwyd a diod yng nghaffi pencadlys Urban Kitchen a sefydlwyd gan Urban Foundry.

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth

Fel cwmni a ddechreuodd yn fach, mae llais y cyflogai yn Urban Foundry wedi bod yn gryf ac yn uniongyrchol, gan alluogi cyflogeion i sgwrsio’n uniongyrchol â’r cyfarwyddwr bob dydd. Yn gyffredinol, wrth i dimau dyfu, mae angen i hyn fabwysiadu strwythur mwy ffurfiol, a dyna’n union a ddigwyddodd yn Urban Foundry.

Gyda thîm o 15 bellach, mae Urban Foundry wedi symud tuag at ddull mwy meintiol o gofnodi llais y cyflogai, er eu bod dal yn ddigon bach i gael sgyrsiau ansoddol effeithiol sy’n cael eu gwerthfawrogi ac yn effeithiol. Mae gan holl uwch-reolwyr y cwmni bolisi ‘drws agored’ i gyflogeion godi unrhyw broblemau ar unrhyw adeg. Mae’r newidiadau eraill a gyflwynwyd yn cynnwys gofyn cwestiynau penodol am hapusrwydd a boddhad cyflogeion yn y gweithle a monitro hynny’n rheolaidd. Mae Urban Foundry hefyd wedi dechrau cymryd y camau bach cyntaf tuag at archwilio perchnogaeth gan y cyflogeion hefyd, gyda chyfranogiad ariannol y cyflogeion ar yr agenda ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen

Mae Urban Foundry yn cymryd datblygiad proffesiynol o ddifri. Ben sy’n esbonio:

Rydyn ni’n ariannu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar ein cyflogeion er mwyn gallu gwneud y gwaith, yn cynnwys unrhyw gostau teithio, cynhaliaeth a llety.

Yn Urban Foundry, gallai hyn gynnwys cymwysterau hylendid bwyd i staff sy’n gweithio yng nghaffi pencadlys Urban Kitchen neu hyfforddiant sy’n ymwneud mwy â chymhwysedd fel iechyd a diogelwch neu godi a chario i enwi ond rhai.

Mae Urban Foundry hefyd yn annog gwirfoddoli fel ffordd o feithrin twf yn y tîm ac mae Ben yn credu bod hyn yn amhrisiadwy. Mae’n esbonio:

Mae’r profiad o allu gweithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd yn golygu bod cyflogeion yn gallu mynd ati i weithio a byw mewn ffordd sy’n eu galluogi i dyfu a datblygu.

Sicrwydd a hyblygrwydd

Mae Urban Foundry yn gyflogwr sy’n ystyriol o deuluoedd. Fodd bynnag, nid pobl â dibynyddion yn unig all fanteisio ar ei opsiynau oriau hyblyg a gweithio hybrid. Gall pob cyflogai weithio gartref os yw ei swydd yn caniatáu hynny, ac mae hynny wedi bod yn newid cymharol hawdd i staff y swyddfa.

Meddai Ben:

Roedden ni ar fin cael gwared ar ein swyddfeydd ar ôl COVID gan nad oedd eu hangen nhw arnon ni mwyach, ond fe ddaethon ni i’r casgliad ein bod ni i gyd yn colli’r agwedd gymdeithasol. O ganlyniad i’r adborth hwnnw, rydyn ni wedi cadw swyddfa ac mae pawb yn cymryd cyfrifoldeb am eu horiau swyddfa eu hunain.”

Fodd bynnag, dydy holl fusnesau Urban Foundry ddim yn gallu defnyddio model gweithio hybrid. Dydy staff caffi pencadlys Urban Kitchen, fel staff y gegin neu’r staff blaen tŷ ddim yn gallu gweithio gartref. Fodd bynnag, maen nhw’n cael pob hyblygrwydd sy’n bosib yn eu swydd, fel hyblygrwydd i allu cyfnewid dyddiau gwaith a shifftiau mor hawdd â phosibl.

Mae Ben yn sicrhau bod ei holl gyflogeion yn teimlo bod ganddyn nhw gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac mae’n hyblyg iawn. Mae’n esbonio:

Os yw rhai o’r staff am ddod i mewn am 11 o’r gloch y bore a gweithio tan saith o’r gloch y nos, yna mae hynny’n iawn cyn belled bod y gwaith yn cael ei wneud. Mae gan eraill, yn cynnwys fi, blant, felly efallai y bydd staff yn diflannu am dri o’r gloch i fynd i nôl y plant o’r ysgol ac yna’n gweithio gartref am weddill y dydd ac mae hynny’n hollol iawn. Roedd un aelod o staff am weithio yn ystod y tymor ysgol yn unig, ac rydyn ni wedi caniatáu hynny i helpu i gadw’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae’n anoddach gyda’r caffi - mae’n rhaid i chi gael staff pan rydych chi ar agor i’r cyhoedd - ond rydyn ni’n dal i geisio bod mor hyblyg ag y gallwn ni o fewn hynny.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Mae adeilad Urban Foundry yn hygyrch i bobl anabl a phan fydd cyflogai newydd yn dechrau bydd y cyfnod sefydlu’n cynnwys asesiad risg i nodi cyflyrau neu gyfyngiadau nad ydyn nhw’n cael eu labelu fel arfer o bosibl. Mae Ben yn esbonio: “

Dydy iechyd meddwl ddim yn cael ei ystyried yn ddigon o ddifri mewn cymdeithas yn gyffredinol, heb sôn am y gweithle. Felly, rhywbeth syml rydyn ni’n ei wneud yw gofyn yn aml: ‘Beth yw dy sgôr di allan o ddeg heddiw?’ – gyda deg yn golygu hapus a llon, a sero yn golygu bod angen ymyrryd ar frys. Mae pawb yn cael eu dyddiau drwg a’u dyddiau da, ond os ydy’r sgôr yn bump neu’n is, rydyn ni bob amser yn ceisio cael sgwrs yn syth i weld beth allwn ni ei wneud i helpu.

Mae yna bethau bach ond nid llai ystyriol y mae’r cwmni yn eu gwneud i greu amgylchedd cynhwysol hefyd, fel ffurflenni personél y cwmni (sy’n cael eu cwblhau adeg sefydlu) sy’n gofyn am ragenwau rhywedd o ddewis. Mae’r cwmni wedi ymuno â siarter Pride Abertawe hefyd ac wedi cefnogi mentrau sy’n hyrwyddo’r gymuned LHDTC+.

Parchu hawliau cyfreithiol

Mae llawer o staff yn y sector lletygarwch yn gallu teimlo eu bod yn cael eu gorweithio ac nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi ddigon. Yng nghaffi pencadlys Urban Kitchen, mae Ben a’r tîm wedi ymrwymo i ddweud, os oes gennych chi gontract o wythnos 40 awr, na fydd yn codi i 60 awr, ond y bydd yn aros ar 40.

Mae’r caffi hefyd wedi ymrwymo i beidio â rhannu shifftiau, gyda’r holl staff yn gwybod beth yw’r rota ymhell o flaen llaw. Mae hyn i gyd yn helpu cyflogeion i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn y pen draw, i fod yn hapus, cynhyrchiol a llwyddiannus yn y gwaith. Mae gan y cwmni bolisi hefyd na fydd yn cyflwyno contractau dim oriau, er eu bod ar gael os yw darpar gyflogai’n gofyn am hyn, er enghraifft, myfyrwyr sydd am ennill arian ychwanegol wrth astudio ond heb orfod ymrwymo i oriau penodol fel y gallan nhw gadw eu hyblygrwydd.

Manteision bod yn gyflogwr gwaith teg

Mae Urban Foundry wedi gweld manteision pendant i fod yn gyflogwr Gwaith Teg. Mae Ben yn esbonio:

Mae’n lleihau trosiant staff, mae’n ei gwneud hi’n haws i recriwtio, mae pobl yn hapusach yn y gwaith, ac mae gweithlu hapusach yn mynd i fod yn weithlu mwy effeithiol ar y cyfan.”

Fodd bynnag, mae’n awyddus i gyfleu i fusnesau a sefydliadau eraill y dylech fod yn gyflogwr Gwaith Teg waeth a yw hynny’n helpu’ch llinell isaf ai peidio. Mae Ben yn ychwanegu:

Mae gennych chi gyfrifoldeb moesol i fod yn ddinesydd corfforaethol da ac fel cyflogwr, waeth a yw hynny o fudd i chi fel busnes ai peidio. Felly, oes, mae yna fanteision, ond nid dyna pam rydyn ni’n gwneud pethau fel rydyn ni yn Urban Foundry.

Edrych tua'r dyfodol 

O ran datblygu Gwaith Teg yn Urban Foundry, un maes a fydd yn cael ei adolygu dros y flwyddyn nesaf fydd tâl salwch. Ar hyn o bryd, mae cyflogeion yn derbyn yr isafswm gofynnol. Fodd bynnag, mae Ben am i’r cwmni fod yn llawer mwy hael ac wrthi’n adolygu sut y gallan nhw gyflawni hynny i’r tîm fel cwmni bach.

Mae hyrwyddo teithio llesol hefyd yn uchel ar y rhestr o bethau i’w gwneud yn 2023. Mae rheseli beiciau wedi’u gosod o amgylch y safle ac mae’r cwmni’n bwriadu parhau i hyrwyddo teithio llesol:

Rydyn ni wrthi’n edrych ar brosiect i osod cawod gan mai un o’r prif rwystrau i bobl feicio i’r gwaith yw eich bod chi naill ai wedi chwysu neu’n wlyb domen ar ôl cyrraedd. Mae angen i ni fynd ati’n ddyfal i sicrhau ei bod hi’n ddiogel teithio o A i B ar y ffyrdd ac mae hynny’n rhywbeth mae ein gwaith bob dydd wedi bod yn ymgyrchu amdano.

Y nod yw annog pobl i feicio yn lle gyrru cymaint â phosibl, gyda manteision dwbl i iechyd cyflogeion ac i’r amgylchedd, yn fyd-eang ac yn lleol.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Urban Foundry wedi canfod ei ‘le hapus’ ac ar ôl twf sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, y nod nawr yw canolbwyntio ar ddatblygu’r brand. Mae’n cloi trwy ddweud:

Dydyn ni ddim am fod yn gwmni anferth, sydd ar wasgar ar draws nifer o lefydd ond dydyn ni ddim am fynd am yn ôl ychwaith; efallai y byddwn yn tyfu ychydig mwy ac mae gennym ni rai prosiectau newydd rydyn ni am eu cyflawni sydd angen mwy o le, ond mae ein maint ni tua’r hyn rydyn ni am iddo fod yn awr i’n galluogi ni i wneud mwy o bethau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu gwaith a phrosiectau newydd o fewn ein cymuned.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.