BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Benthyciadau Arloesi Economi’r Dyfodol Innovate UK: Rownd 16

Team meeting

Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i alluogi busnesau micro, bach a chanolig i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod o arloesol sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dangos bod llwybr amlwg tuag at fasnacheiddio a chael effaith economaidd.

Mae'n rhaid i'ch prosiect arwain at greu cynnyrch, prosesau, neu wasanaethau newydd arloesol sydd gam sylweddol ymlaen o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, neu gynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau, neu wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Gallai hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.

Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o feysydd economi’r dyfodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gweithredu Innovate UK.

Nid yw unigolion, cwmnïau mawr, cwmniau nid-er-elw, elusennau, sefydliadau academaidd na sefydliadau ymchwil yn gymwys i gael benthyciadau arloesi. Dim ond busnesau unigol all dderbyn benthyciadau, felly ni all y gystadleuaeth hon ariannu cydweithio â sefydliadau eraill.

Bydd yr arian sydd ar gael yn cael ei ddyrannu ar draws cyfres o gystadlaethau, gyda'r rownd nesaf yn agor ar y diwrnod y bydd y rownd flaenorol yn cau:

  • bydd rownd 16 (y rownd hon) yn agor ar 27 Mehefin 2024 ac yn cau ar 21 Awst 2024
  • bydd rownd 17 yn agor ar 22 Awst 2024 ac yn cau ar 2 Hydref 2024
  • bydd rownd 18 yn agor ar 3 Hydref 2024 ac yn cau ar 3 Rhagfyr 2024
  • bydd rownd 18 yn agor ar 3 Rhagfyr 2024 ac yn cau ar 29 Ionawr 2025

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Innovate UK innovation loans future economy: round 16 - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.