BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Arweiniad i berchnogion a gweithredwyr parciau gwyliau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio arweiniad sy’n egluro beth mae perchnogion a gweithredwyr parciau gwyliau angen ei wneud wrth ymateb i’r Coronafeirws.

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) i rym am hanner dydd 24 Mawrth 2020. Mae’r rheoliadau’n rhoi polisi Llywodraeth Cymru ar waith, sef y dylai parciau gwyliau a safleoedd carafannau gau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau am y coronafeirws gan Fusnes Cymru er mwyn cael gwybodaeth ynghylch sut gall eich busnes ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.