BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Canllaw Newydd i Adwerthwyr am y Gwasanaeth Danfon i’r Cartref

Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi lansio canllaw newydd i adwerthwyr yn y sector cyfleustra sy’n ystyried cyflwyno gwasanaeth danfon i’r cartref i gwsmeriaid.

Mae rhagor o adwerthwyr cyfleustra yn ystyried danfon nwyddau fel opsiwn i gyrraedd cwsmeriaid lleol sy’n hunanynysu, neu’r rhai sy’n methu â theithio i’w siop leol. Mae’r canllaw newydd yma’n rhoi manylion ynghylch beth ddylai adwerthwyr ei ystyried wrth ddechrau gwasanaeth danfon i’r cartref.

Mae’r canllaw yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • sut i gymryd archebion
  • sut i gymryd taliadau
  • sut i weithredu gwasanaeth casglu
  • sut i reoli diogelwch data
  • nwyddau â chyfyngiad oed

I gael rhagor o wybodaeth a llwytho’r canllaw i lawr, ewch i wefan y Gymdeithas Siopau Cyfleustra.

I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.