BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cronfa Cymorth Menter Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer entrepreneuriaid ifanc

Bydd y Gronfa Cymorth Menter gwerth £5 miliwn yn cynnig grantiau i bobl ifanc 18 i 30 oed ledled y DU sy’n hunangyflogedig a/neu yn cynnal eu busnes eu hunain. Yn ogystal â grantiau arian parod, bydd y fenter yn cynnig cymorth un-i-un ac arweiniad i unrhyw un sydd ei angen ac a allai fod yn poeni am y dyfodol.

Gellir defnyddio grantiau i gynnal gweithredoedd busnes craidd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ynghyd â bodloni unrhyw ymrwymiadau ariannol presennol, fel talu am gyfarpar hollbwysig neu dalu anfonebau gan gyflenwyr.

I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i chi fod yn berchennog busnes 18 - 30 oed, sydd wedi sefydlu eich busnes yn y pedair blynedd diwethaf ac mae’n rhaid i chi beidio bod â ffynhonnell arall o incwm yn ystod yr argyfwng hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.