BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth ac e-byst sgâm CThEM

Mae Cynllun Cymorth Incwm newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y bobl hunangyflogedig sydd wedi’u heffeithio gan y COVID-19.

Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn e-byst, galwadau a negeseuon testun sgâm. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n honni eu bod o CThEM, yn dweud y gallwch hawlio cymorth ariannol, neu fod arnyn nhw ad-daliad treth i chi ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen, neu i roi gwybodaeth fel eich enw, manylion cerdyn credyd neu fanc, peidiwch ag ymateb.

Ni fydd CThEM byth yn cysylltu â chi’n annisgwyl i ofyn am y manylion hyn.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau am y coronafeirws gan Fusnes Cymru er mwyn gael gwybodaeth ynghylch sut gall eich busnes ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.