BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cynnydd i’r Credydau Treth Gwaith

Fel rhan o nifer o fesurau i gefnogi'r wlad yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), bydd taliadau Credydau Treth Gwaith yn cynyddu £1,045 i £3,040 y flwyddyn o 6 Ebrill 2020 tan 5 Ebrill 2021.

Bydd y swm y bydd hawlydd neu aelwyd yn elwa ohono yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, gan gynnwys lefel incwm yr aelwyd.

Os ydych yn hawlio Credydau Treth Gwaith, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth na chysylltu â CThEM – bydd y cynnydd yn eich taliadau yn dechrau o 6 Ebrill 2020.

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor Coronafeirws i fusnesau Busnes Cymru am wybodaeth ar gyfer eich busnes wrth ddelio â’r Coronafeirws.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.