BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd i leihau aflonyddwch byd-eang

Mae busnesau ac unigolion ledled y byd yn wynebu heriau enfawr yn wyneb y pandemig coronafeirws.

Mae’r gofyniad i aros gartref a chadw pellter cymdeithasol neu ymneilltuo yn cyflwyno bygythiadau newydd i ystod eang o fusnesau a gwasanaethau, o fusnesau dosbarthu i wneuthurwyr bwyd, adloniant, gwasanaethau ariannol, gofal iechyd, lletygarwch, adwerthu, trafnidiaeth a chymorth cymunedol.

Gall arloesi busnes wneud cyfraniad pwysig iawn at ddatblygu ffyrdd o ysgafnhau’r aflonyddwch yn sgil COVID-19 ac unrhyw aflonyddu byd-eang yn y dyfodol.

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £20 miliwn mewn prosiectau busnes i ddatblygu syniadau arloesol ac uchelgeisiol i fynd i’r afael ag anghenion cymdeithas neu ddiwydiant sy’n deillio o’r argyfwng coronafeirws.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

  • llwyfannau a meddalwedd newydd ar gyfer cerddoriaeth
  • ffyrdd newydd i deuluoedd gysylltu â’u perthnasau oedrannus neu fregus a’u monitro o bell
  • technoleg i helpu adwerthwyr ymateb yn well i gynnydd mewn galw gan gwsmeriaid
  • adnoddau addysg newydd sy’n galluogi i athrawon osod tasgau o bell sy’n cadw’r dosbarth cyfan gyda’i gilydd

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 17 Ebrill 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.