BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Nid oes rhaid i gyflogwyr adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Oherwydd yr achosion o’r Coronafeirws, mae Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (GEO) a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cymryd y penderfyniad i atal gorfodi'r terfynau amser o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer y flwyddyn adrodd hon (2019/20).

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd disgwyl i gyflogwyr adrodd ar eu data.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor Coronafeirws i fusnesau Busnes Cymru am wybodaeth ar gyfer eich busnes wrth ddelio â’r Coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.