BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Rhoi estyniad o 3 mis i gwmnïau ffeilio eu cyfrifon

O 25 Mawrth 2020 ymlaen, bydd busnesau’n gallu gwneud cais am estyniad o 3 mis i ffeilio eu cyfrifon.

Bydd y fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Thŷ’r Cwmnïau yn galluogi busnesau i flaenoriaethu rheoli effaith y Coronafeirws.

Fel rhan o’r mesurau sydd wedi’u cytuno arnynt, er y bydd rhaid i gwmnïau wneud cais i gael yr estyniad o 3 mis o hyd, bydd y rheini sy’n profi problemau oherwydd COVID-19 yn cael estyniad awtomatig yn syth. Gellir gwneud cais drwy system gyflym ar-lein a fydd ond yn cymryd 15 munud.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Ewch i’r tudalennau sy’n rhoi cyngor i fusnesau am y Coronafeirws er mwyn i’ch busnes gael gwybodaeth ynghylch sut i ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.