Bydd gweithwyr nad ydynt wedi defnyddio eu holl wyliau blynyddol statudol oherwydd COVID-19 nawr yn gallu eu trosglwyddo ymlaen i’r 2 flynedd nesaf o wyliau, o dan fesurau sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener 27 Mawrth 2020.
Ar hyn o bryd, mae gan bron i bob gweithiwr hawl i gael 28 diwrnod o wyliau gan gynnwys gwyliau banc bob blwyddyn. Fodd bynnag, nid oes modd trosglwyddo’r rhan fwyaf o’r hawl yma ymlaen rhwng blynyddoedd gwyliau, sy’n golygu bod gweithwyr yn colli eu gwyliau os nad ydyn nhw’n eu defnyddio.
Bydd y rheoliadau’n golygu bod modd trosglwyddo hyd at 4 wythnos o wyliau nad ydynt wedi cael eu defnyddio ymlaen i’r 2 flynedd nesaf o wyliau, gan liniaru’r gofynion ar fusnesau i sicrhau bod gweithwyr yn defnyddio eu nifer statudol o wyliau blynyddol mewn un flwyddyn.
Bydd hyn yn golygu bod staff yn gallu parhau i weithio yn yr ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws heb golli eu hawl i wyliau blynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.