BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEF yn lansio Offeryn Amcangyfrif TAW

Hairdresser

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi lansio offeryn digidol i helpu busnesau i amcangyfrif beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu iddyn nhw.

Mae’r Offeryn Amcangyfrif TAW yn deillio o adborth busnesau bach a awgrymodd y byddai offeryn ar-lein yn ddefnyddiol i ddangos pryd y gallai eu trosiant olygu bod angen i fusnesau gofrestru ar gyfer TAW a’i heffaith ar elw.

Mae’n rhaid i fusnes gofrestru ar gyfer TAW os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae cyfanswm ei drosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf yn fwy na £90,000 – sef y ‘trothwy TAW’ – roedd hyn yn £85,000 tan 31 Mawrth 2024.
  • mae disgwyl i’w drosiant fod yn uwch na’r trothwy TAW o £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
  • mae’n fusnes tramor sydd heb ei leoli yn y DU ac sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf) – waeth beth yw ei drosiant TAW.

Mae’n rhaid i fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW godi TAW ar werthiannau cymwys. Fel arfer, gall adhawlio TAW ar bryniannau cymwys. Mae tua 300,000 o gofrestriadau TAW newydd bob blwyddyn.

Gall yr offeryn newydd helpu unrhyw fusnes i weld beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu, yn ogystal â rhoi cysylltiadau i wybodaeth bellach iddynt ynghylch y broses gofrestru. Mae hefyd yn offeryn defnyddiol i fusnesau sy’n gweithredu o dan y trothwy ac sy’n ystyried cofrestru’n wirfoddol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: CThEF yn lansio Offeryn Amcangyfrif TAW - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.