BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu

Business owner stood beside packaging

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig (EPR) ar gyfer pecynnu.

Mae EPR ar gyfer pecynnu yn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Mae'n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau sy'n cyflenwi ac yn defnyddio deunydd pacio dalu am ei reolaeth pan fydd yn cael ei wastraffu.

Mae'r cynllun ledled y DU yn anelu at:

  • leihau deunydd pacio diangen 
  • cynyddu effeithlonrwydd adnoddau ac ansawdd a maint ailgylchu 
  • lleihau faint o ddeunydd pacio sydd mewn ffrydiau gwaredu gwastraff 
  • lleihau sbwriel pecynnu, a 
  • annog ailddefnyddio deunydd pacio

Rydym eisoes yn arwain y byd o ran ailgylchu, ac rydym am wneud mwy. Ond nid oes atebion ailgylchu ar gyfer sawl math o becynnu yn bodoli neu yn ddrud i'w rheoli. Mae cyflwyno EPR ar gyfer pecynnu yn ffordd o wella ailgylchu. Bydd hefyd yn helpu'r sector i ddatgarboneiddio trwy gefnogi trawsnewidiad sylweddol.

Y nod yw: 

  • mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur
  • aeiladu economi gryfach a gwyrddach
  • bod yn sero net yng Nghymru erbyn 2050

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.