BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi canllawiau newydd ar fethu ag atal twyll

Person refusing to taken a bribe, money in an envelop

Bydd canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn rhoi cyngor pwysig i sefydliadau ar y drosedd gorfforaethol newydd o 'fethu ag atal twyll', gan helpu i sicrhau eu bod yn cymryd camau i atal twyll. 

Wedi'i gyflwyno'r llynedd fel rhan o'r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (ECCT), bwriad y drosedd yw dal sefydliadau mawr i gyfrif os ydynt yn elwa o dwyll.

O dan y drosedd gall sefydliadau mawr fod yn atebol yn droseddol pan fydd cyflogai, asiant, is-gwmni, neu "berson cysylltiedig" arall, yn cyflawni twyll sy'n bwriadu bod o fudd i'r sefydliad. 

Gall enghreifftiau gynnwys arferion gwerthu anonest, cuddio gwybodaeth bwysig oddi wrth ddefnyddwyr neu fuddsoddwyr, neu arferion anonest mewn marchnadoedd ariannol.  

Os bydd erlyniad, byddai'n rhaid i sefydliad ddangos i'r llys fod ganddo fesurau atal twyll rhesymol ar waith ar yr adeg y cyflawnwyd y twyll. 

Bwriad y drosedd yw annog sefydliadau i adeiladu diwylliant gwrth-dwyll, yn yr un modd ag y mae deddfwriaeth methu ag atal llwgrwobrwyo wedi helpu i ail-lunio diwylliant corfforaethol ers ei gyflwyno yn 2010. 

Bydd methu ag atal twyll yn dod i rym ar 1 Medi 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Offence of 'failure to prevent fraud' introduced by ECCTA - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.