Mae WorldSkills UK wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd Cymru'n paratoi i groesawu talent gorau'r DU fis Tachwedd nesaf yn dilyn rownd derfynol hynod lwyddiannus yn Lyon ym mis Medi, lle daeth dau gystadleuydd o Gymru â gwobrau yn ôl â nhw i Gymru. Enillodd Ruben Duggen wobr Arian yn y categori Plymio, a phenderfynwyd mai Ruby Pile oedd yr ymgeisydd Gorau yn y Genedl am ei phroffesiynoldeb mewn Gwasanaethau Bwyty.
Yn ystod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol, bydd sgiliau pobl ifanc o bob rhan o'r DU yn cael eu hasesu mewn meysydd sydd mor amrywiol â Chynnal a Chadw Awyrennau, Creu Gemau Digidol 3D, Weldio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coginio a Gosodiadau Trydanol. Efallai y bydd y rhai sy'n rhagori yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau WorldSkills rhyngwladol yn y dyfodol.
Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn rhan annatod o'r calendr addysg a hyfforddiant ôl-16 ac yn denu dros 6,000 o bobl o bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban i gofrestru bob blwyddyn. Mae’r cystadlaethau’n rhoi cyfle i sefydliadau addysg a chyflogwyr feincnodi gallu eu myfyrwyr a'u prentisiaid yn erbyn safonau rhyngwladol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymru i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 | LLYW.CYMRU