BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2024

Conference, people applauding

Mae caethwasiaeth fodern yn her fyd-eang, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i fynd i'r afael â'r drosedd echrydus hon a'i hatal. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o'r ateb drwy ddod i gynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2024.

Mae Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd i rwydweithio a rhannu eu dysgu a’u profiadau. Cynhelir y gynhadledd eleni ar 16 Hydref 2024.

Bydd y gynhadledd, a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr glywed gan siaradwyr arbenigol, gan gynnwys:

  • Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Robyn Phillips, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn y Sefydliad Masnachu Pobl
  • Ryszard Piotrowicz, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth;

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn croesawu ac yn annog cyfranogiad gan y rhai sydd â phrofiad personol o gamfanteisio.

Gallwch ymuno â'r gynhadledd wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth neu ymuno ar-lein trwy Microsoft Teams. Nifer gyfyngedig o docynnau wyneb yn wyneb sydd ar gael, ac felly fe'ch anogir i archebu'n gynnar. Cofrestrwch yma: Eventbrite

Cysylltwch â fasstaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.