BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - cyngor terfynol ynghylch cymhwysedd ar gyfer y brechiad yn erbyn COVID-19 yn hydref 2024

person receiving a vaccination

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion ynghylch amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau. 

Fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen brechu yn erbyn COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cyhoeddi datganiad sy'n cynnwys ei gyngor terfynol ar gymhwysedd a chynnyrch brechlyn ar gyfer rhaglen y brechiad yn erbyn Covid-19 yn hydref 2024. Prif nod y rhaglen brechu yn erbyn COVID-19 yw hybu imiwnedd yn y rhai sy'n wynebu risg uwch o ganlyniad i COVID-19, a gwella amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i'r ysbyty a marwolaeth.

Yn ei ddatganiad, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cynghori na ddylai'r grwpiau canlynol gael eu cynnwys yn rhaglen hydref 2024-25:

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gofalwyr di-dâl 

Fodd bynnag, gan fod disgwyl i'r rhaglen ddechrau ymhen ychydig wythnosau, gallai dileu'r grwpiau hyn ar hyn o bryd beri pryder. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu sicrhau bod brechiad COVID-19 yr hydref ar gael i'r grwpiau hyn fel rhan o'r rhaglen genedlaethol.

Rhagwelir mai dyma fydd y tro olaf y bydd cynnig rhagweithiol yn cael ei wneud i'r grwpiau hyn, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn y dyfodol, ac adolygiad parhaus gan y Cyd-bwyllgor.

I grynhoi, yn hydref 2024, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19:

  • Pobl sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn 
  • Pob oedolyn 65 oed ac yn hŷn 
  • Unigolion rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhablau 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 
  • Gofalwyr di-dâl

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - cyngor terfynol ynghylch cymhwysedd ar gyfer y brechiad yn erbyn COVID-19 yn hydref 2024 (2 Awst 2024) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.