BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiadau diogelwch a sicrwydd – gofynion newydd o 31 Ionawr 2025

EU Flag and Union Jack Flag

O 31 Ionawr 2025, bydd angen datganiadau diogelwch a sicrwydd ar holl fewnforion yr Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr.

Mae CThEF yn cefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y gofynion newydd. I gael gwybod mwy am yr wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi a'r camau y gallwch eu cymryd i baratoi, ewch i'r dudalen diogelwch a sicrwydd ar GOV.UK.

Mae fideo byr ar YouTube i roi mwy o wybodaeth.

Os ydych yn barod i ddechrau cyflwyno datganiadau diogelwch a sicrwydd cyn 31 Ionawr 2025, mae CThEF yn eich annog i wneud hynny.

Sylwch mai’r cludwr sy'n symud y nwyddau dros y ffin i Brydain Fawr fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod y datganiadau diogelwch a sicrwydd gofynnol yn cael eu cyflwyno, er y gallant drefnu i drydydd parti gyflwyno'r datganiadau ar eu rhan.

Mae CThEF yn annog pob parti yn y gadwyn gyflenwi i drafod y newidiadau sydd ar ddod nawr.

Mae datganiadau diogelwch a sicrwydd yn cefnogi'r frwydr i atal nwyddau anghyfreithlon, fel cyffuriau ac arfau, rhag dod i mewn i'r DU ac yn sicrhau nad yw nwyddau cyfreithlon yn cael eu hatal ar gyfer gwiriadau diangen.

O 31 Ionawr 2025, mae CThEF hefyd yn lleihau faint o ddata sydd ei angen ar ddatganiad diogelwch a sicrwydd, a fydd o fudd i bawb sy'n symud nwyddau i Brydain Fawr.

Bydd 20 maes gorfodol, o’i gymharu â 37 yn awr, y mae'n rhaid eu cwblhau ar gyfer pob datganiad. Bydd hefyd 8 maes amodol, a dim ond mewn rhai amgylchiadau y mae angen eu cwblhau. Bydd y 9 maes sy'n weddill yn ddewisol i'w cwblhau.

Bydd CThEF yn parhau i gyhoeddi rhagor o wybodaeth ar y dudalen diogelwch a sicrwydd ar GOV.UK yn ystod yr wythnosau nesaf.

Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Pan allforio? | Drupal


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.