Bydd ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024. Bydd yn gyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Eleni, mae sylw arbennig yn cael ei roi i sefydliadau ym maes iechyd a gofal, gan ei fod yn hollbwysig fod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn yn Gymraeg, ond mae croeso i unrhyw sefydliad i gymryd rhan.
Nod yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ac i fusnesau, elusennau a sefydliadau o bob math hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd.
Dylid annog pobl o bob oed o bob cefndir ar draws Cymru i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd - gartref, yn y gwaith, yn y siop, wrth gymdeithasu, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg'
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)