BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang 2025

Person looking at a map of the world, planing to travel

Ar 17 Chwefror, mae'r byd yn dathlu Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang, a ddynodwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

I lawer o wledydd sy'n datblygu, gan gynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig, gwladwriaethau sy’n ynysoedd bach ac sy'n datblygu, gwledydd yn Affrica a gwledydd incwm canolig, mae twristiaeth yn ffynhonnell bwysig o incwm, enillion arian tramor, refeniw treth a chyflogaeth. Oherwydd bod twristiaeth yn cysylltu pobl â natur, mae gan dwristiaeth gynaliadwy’r gallu unigryw i sbarduno cyfrifoldeb amgylcheddol a chadwraeth.

Mae twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys ecodwristiaeth, yn weithgaredd trawsbynciol a all gyfrannu at dri dimensiwn datblygu cynaliadwy a chyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy feithrin twf economaidd, lleddfu tlodi, creu cyflogaeth lawn a chynhyrchiol a gwaith teg i bawb.

Gall hefyd chwarae rhan wrth gyflymu'r newid i batrymau defnydd a chynhyrchu mwy cynaliadwy a hyrwyddo'r defnydd cynaliadwy o gefnforoedd, moroedd ac adnoddau morol, hyrwyddo diwylliant lleol, gwella ansawdd bywyd menywod a phobl ifanc, pobl frodorol a chymunedau lleol a’u grymuso’n economaidd, a hyrwyddo datblygu gwledig ac amodau byw gwell ar gyfer poblogaethau gwledig, gan gynnwys ffermwyr tyddyn a theuluol.

Mae'r diwrnod hwn yn pwysleisio rôl hanfodol twristiaeth wydn wrth wynebu a goresgyn heriau byd-eang amrywiol. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd paratoi'r sector twristiaeth i ymateb yn effeithiol i argyfyngau, gan adlewyrchu pa mor fregus yw’r sector yn wyneb argyfyngau fel trychinebau amgylcheddol, anwadalwch economaidd, ac argyfyngau iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Global Tourism Resilience Day | United Nations

Cefnogi Twristiaeth yng Nghymru - Rydyn ni yma i helpu busnesau twristiaeth Cymru i wireddu eu Huchelgais werdd. Ddim yn siŵr ble i ddechrau o ran cynaliadwyedd? Efallai eich bod wedi dechrau gwneud newidiadau ond eisiau cymryd cam mawr ymlaen? Lawrlwythwch ein pecynnau adnoddau byr, defnyddiol sy'n cynnwys awgrymiadau gwych a chyngor cyllido: Twristiaeth Gynaliadwy Cymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.