BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gall llifogydd dŵr wyneb effeithio ar gymunedau yn yr haf

person wearing wellington boots and stood in a flooded sitting room

Mae llifogydd dŵr wyneb neu fflachlifoedd yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn draenio i ffwrdd drwy’r systemau draenio arferol nac yn suddo i’r ddaear ond yn gorwedd ar y ddaear neu’n llifo drosti yn lle hynny. Gall hyn fod oherwydd dwyster a maint y glawiad, oherwydd bod y ddaear eisoes yn ddirlawn (yn llawn dŵr), neu oherwydd bod glaw yn disgyn ar arwynebau anathraidd, ee concrit.

Mae llifogydd dŵr wyneb yn dueddol o ddigwydd mewn ardaloedd mwy trefol fel trefi a dinasoedd, lle mae mwy o goncrit neu arwynebau caled eraill, gan na allant amsugno dŵr, tra bod glaswellt a phridd yn gallu gwneud hynny. Gall hefyd ddigwydd yn ystod cyfnodau o sychder, pan fydd y pridd wedi’i gywasgu ac yn methu amsugno dŵr, fel arfer yn ystod misoedd yr haf.

Nid yw gwasanaeth rhybuddio am lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd am ddim, yn rhybuddio am ddŵr wyneb oherwydd gall y math hwn o lifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac yn aml yn lleol iawn, sy’n golygu nad oes amser i gyhoeddi negeseuon rhybudd ymlaen llaw.

Fodd bynnag, mae sawl ffordd o ddysgu mwy am y risg hon:

Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft:

  • gosod systemau diogelu rhag llifogydd
  • gwneud yn siŵr fod eich polisi yswiriant yn cynnwys difrod y bydd tywydd yn ei achosi i’ch eiddo - 
  • gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant addas, mae’r Association of British Insurers yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Mae yswiriant eiddo masnachol yn hynod berthnasol
  • cael cynllun parhad busnes
  • gwneud copïau o'ch dogfennau yswiriant a gwybodaeth gyswllt bwysig
  • paratoi bag sy’n cynnwys eitemau hanfodol y gallwch gael gafael arno’n hawdd petai rhaid i’r adeilad gael ei wagio

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.