Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ragor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais.
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill.
Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gael ar y Gwirwyr Cronfeydd Busnes Cymru.