Mae Croeso Cymru yn cynnal sesiwn ar-lein i rannu eu cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 ac ymgyrch farchnata newydd i Gymru.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal trwy Digwyddiad Byw Microsoft Teams ar 17 Hydref 2024 rhwng 2pm a 3.30pm.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:
- Gweithgaredd marchnata diweddar a chyfredol
- Gweithgaredd y diwydiant teithio
- Gwefan newydd i'r Diwydiant
- Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr.
Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n mynychu, gan gynnwys dadansoddiad o fathau o gynulleidfaoedd ar gyfer blwyddyn thematig 2025.
Cofrestrwch ar gyfer eich lle erbyn 4pm, 14 Hydref 2024 ar: Digwyddiadur Busnes Cymru - Mae gweminar marchnata Croeso Cymru