Bob dydd, mae miliynau o bobl ledled y DU yn gwneud gwahaniaeth trwy wirfoddoli.
Bob blwyddyn, mae enghreifftiau rhagorol o’r gwaith hwn yn cael eu dathlu trwy Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS).
Cafodd y Wobr ei chreu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II ac fe’i gelwid gynt yn Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS). Mae’r Wobr wedi bod yn taflu goleuni ar waith gwych grwpiau gwirfoddol o bob rhan o’r DU ers blynyddoedd lawer.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 1 Rhagfyr 2024.
Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: The King's Award for Voluntary Service – gwefan swyddogol
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maent eisiau gweld bod y busnesau y maent yn delio â nhw yn cymryd rhan yn yr un modd ac yn gwneud yr un peth.
Mae yna lawer o ffyrdd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac, ar yr un pryd, cadw eu cwsmeriaid yn hapus. Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Busnes Cymru