BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Gwnaed yng Nghymru 2024

The Made in Wales Awards 2024

Bydd cinio gwobrwyo Gwobrau Gwnaed yng Nghymru 2024 yn cael ei gynnal ar 24 Hydref 2024 yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd.

Mae'r gwobrau'n cydnabod cyflawniadau diwydiant gweithgynhyrchu Cymru, gan ddathlu arloesedd, cynnyrch newydd, a llwyddiant busnes ar draws amryw o sectorau.

Y categorïau yw:

  • Gwobr Arloesi Gweithgynhyrchu
  • Gwobr Meddygol, Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd
  • Gwobr Gwneuthurwr Cynaliadwy / Moesegol
  • Gwobr Prentis y Flwyddyn
  • Gwobr Talent y Dyfodol Gweithgynhyrchu
  • Gwobr Technoleg Ddigidol
  • Gwobr Allforio
  • Gwobr Busnes Newydd Gweithgynhyrchu
  • Gwobr Bwyd a Diod
  • Gwneuthurwr y Flwyddyn (trosiant o dan £25 miliwn)
  • Gwneuthurwr y Flwyddyn (trosiant o dros £25 miliwn)

Anogir cwmnïau o bob maint i gymryd rhan.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau yn rhad ac am ddim. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Awst 2024. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau Insider Made in Wales 2024 (insidermedia.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.