Mae Yswiriant Credyd Masnach yn yswirio cannoedd o filoedd o drafodion busnes i fusnes, yn enwedig mewn sectorau nad ydynt yn wasanaethau, fel gweithgynhyrchu ac adeiladu. Mae’n yswirio cyflenwyr sy’n gwerthu nwyddau yn erbyn y cwmni y maent yn gwerthu iddo yn diffygdalu, gan roi’r hyder i fusnesau fasnachu gyda’i gilydd. Ond yn sgil y Coronafeirws a busnesau’n cael anhawster talu biliau, maent mewn perygl o golli eu hyswiriant credyd, neu bremiymau’n codi i lefelau anfforddiadwy.
I atal hyn rhag digwydd, bydd llywodraeth y DU yn gwarantu trafodion busnes i fusnes sy’n cael eu cwmpasu gan Yswiriant Credyd Masnach dros dro, gan sicrhau y bydd y rhan fwyaf o yswiriant yn cael ei gynnal ar draws y farchnad.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.